Bygythiad mwy na chanser?

  • Cyhoeddwyd

"Mwy o fygythiad i ddynoliaeth na chanser". Dyna ydy rhybudd y Canghellor am yr hyn allai ddigwydd yn y dyfodol.

Mewn araith i Gronfa Ariannol y Byd (IMF) yn Washington ar 14 Ebrill fe awgrymodd George Osborne bod angen i wledydd y byd fynd i'r afael â phroblem gwrthfiotigau.

Mae astudiaethau diweddar, gan gynnwys ymchwil ym Mhrifysgol Bryste ac Imperial College yn awgrymu bod ein gorddibyniaeth ar y cyffuriau hyn yn beryg, gan fod bacteriau yn dechrau eu gwrthsefyll.

Mae Dr Cerith Jones yn Wyddonydd Ôl-ddoethurol yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd. Mae'n aelod o dîm sy'n gweithio i geisio datrys y broblem yma. Bu Cerith yn sôn mwy am y sefyllfa sydd ohoni wrth Cymru Fyw.

Dr Cerith JonesFfynhonnell y llun, Cerith Jones
line

Mae gwrthfiotigau yn gyffuriau rhyfeddol, sy'n ein helpu i wella yn dilyn heintiau gan facteria. Gallwn ddiolch i Alexander Fleming am hyn, gan ei fod wedi darganfod y gwrthfiotig cyntaf, Penicillin, yn 1928.

Cyn hynny, roedd heintiau bacteriol yn beryglus iawn i fywyd, gyda niwmonia, twbercwlosis a dolur rhydd yn brif achosion marwolaeth. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd y cyffur ei ddosbarthu yn eang i filwyr gan leihau nifer y marwolaethau. Heddiw nid yw heintiau bacteriol mor beryglus oherwydd y cyfoeth o wrthfiotigau sydd ar gael.

Beth yw'r broblem?

Am bron i ganrif rydyn ni wedi elwa o wrthfiotigau, ond mae trin heintiau bacteriol yn dod yn fwyfwy o broblem. Erbyn heddiw gall bacteria wrthsefyll sawl gwrthfiotig, sy'n golygu bod llawer o'n cyffuriau yn ddiwerth.

Trwy addasu, mae bacteria yn medru gwrthsefyll cyffuriau a oedd unwaith yn bwerus, ac mae'n dod yn anoddach i glirio'r haint. Yn yr achosion hyn mae angen gwrthfiotigau gwahanol, ond yn y pen draw efallai fydd 'na ddim opsiynau eraill ar ôl.

Penicillin

Proses hir a chostus yw dod â chyffur newydd i'r farchnad a sicrhau ei fod yn ddiogel ac effeithiol. I waethygu'r broblem, mae cyflymdra darganfod gwrthfiotigau wedi arafu.

Yn dilyn darganfod Penicillin, rhwng 1928 ac 1964, cafodd dros ugain dosbarth gwahanol o wrthfiotigau eu darganfod. Wedi hynny, dim ond dau dosbarth newydd sydd wedi'u darganfod ac mae sawl cwmni fferyllol wedi cwtogi ymdrechion yn y maes hyn.

Trafferthion gydag ariannu

Er mwyn ceisio osgoi'r broblem, mae angen defnyddio unrhyw wrthfiotig newydd yn gynnil, er mwyn cadw eu pŵer. Byddai hyn yn golygu y byddai gwerthiant y cyffur newydd yn weddol isel, o'i gymharu â meddyginiaeth sy'n cael ei gymryd sawl gwaith y dydd gan filoedd o bobl, fel tabledi i drin pwysedd gwaed.

Fe fyddai hi'n anodd iawn felly i adennill costau datblygu'r gwrthfiotig, heb sôn am wneud elw - felly nid oes ysgogiad ariannol i gwmnïoedd fferyllol wneud yr ymchwil angenrheidiol. Mae angen newidiadau mewn ariannu er mwyn hwyluso'r broses, ac mae cwmnïoedd fferyllol wedi lobïo llywodraethau am gefnogaeth.

Ymchwil gan y prifysgolion

Mae prifysgolion yn parhau i gynnal ymchwil ym maes darganfod gwrthfiotigau. Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni'n astudio grŵp o facteria o'r enw Burkholderia sydd yn cynhyrchu gwrthfiotigau - gwaith sydd wedi ei ariannu gan BBSRC (Biotechnology and Biological Sciences Research Council).

YmchwilFfynhonnell y llun, Cerith Jones

Rydyn ni'n cyfuno dulliau traddodiadol gyda thechnoleg geneteg modern i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd a gwahanol. Mae'n bwysig hefyd i ddeall sut mae bacteria yn achosi heintiau, a thrwy hyn, bydd ein dibyniaeth ar wrthfiotigau yn lleihau. Gall ymchwil sylfaenol arwain at ddatblygu brechlyn sy'n atal heintiau.

Mae'n cymryd ychydig o ddyddiau i wneud diagnosis o heintiau gan y labordy, ond fyddai adnabod bacteria yn fwy cyflym yn galluogi doctoriaid i drin heintiau yn fwy llwyddiannus. Y gobaith yw datblygu prawf rhad gall doctoriaid ei ddefnyddio yn y feddygfa i osgoi'r labordy.

Beth yw'r dyfodol?

Trwy greu partneriaethau cyhoeddus-preifat gallwn ganiatáu datblygiad o wrthfiotigau gyda llai o risg ariannol nag i un gwmni sengl, a rhoi bywyd newydd i'r maes.

Mae'r llywodraeth, gwyddonwyr, meddygon a diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd gyda'r gobaith o sicrhau na fyddwn yn dychwelyd i'r cyfnod cyn-gwrthfiotigau.