Pwy yw'r mami?

  • Cyhoeddwyd

Ar Sul y Mamau, sawl un o famau sêr Cymru fedrwch chi eu hadnabod? Efallai bydd y cliwiau'n eich helpu...neu efallai ddim!

line
mam

Mae Anne yn falch iawn o'i mab chwim ei ddwylo, sydd wedi gwneud tipyn o argraff yn nhîm Cymru yn ddiweddar.

Ond pwy yw mab adnabyddus Anne? Am yr ateb, pwyswch yma.

line
mam pwy

Mae gan Jên ŵr a mab adnabyddus? Ond pwy ydyn nhw?

Am yr ateb, pwyswch yma.

line
Mam

Mae Linda'n wyneb adnabyddus ei hun, ond ydych chi'n 'nabod ei dwy ferch dalentog?

Am yr ateb, pwyswch yma.

line
mam

Canu ac actio yw talentau merch Wendy, ond os chi'n reslo am yr ateb, meddyliwch am 'Pobol y Cwm' efallai?

Am yr ateb, pwyswcyh yma.

line
mam

Mae Morfudd yn mwynhau adolygiadau ffilm ei mab adnabyddus, ond weithiau mae'n gwingo ar ei set 'stand- up'.

Ond pwy yw mab Morfudd? Am yr ateb, pwyswch yma.

line
Mam balch

Mae Ruth yn meddwl y byd o'i mab. Tybed a oedd gwell ganddi ei driciau hud pan oedd yn blentyn na gwrando ar y caneuon mae'n eu chwarae ar C2 Radio Cymru a Radio 1?

Pwy yw mab dawnus Ruth? Am yr ateb, pwyswch yma.

line
mam

Joan yw'r un yn y sbectol ac mae hi'n fam i gantores a chyflwynwraig adnabyddus. Gweithio ar ei rhaglen radio hi mae'r person ar y dde!)

Ond mam pwy ydy Joan? Am yr ateb, pwyswch yma.

line
Mam

Ac i orffen, dyma Eleri wnaeth ennill Cân i Gymru yn 1971, gyda'i merch sydd bellach yn actores adnabyddus. Ond peidiwch anghofio am y mab sydd yn newyddiadurwr hefyd.

Pwy yw'r plant adnabyddus? Pwyswch yma am yr ateb.