'Dim mwy o wadu' pwysigrwydd codi safonau mewn ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Huw Lewis

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud wrth gynulleidfa o athrawon yng Nghaerdydd na ddylai 'na fod "mwy o wadu" ynglŷn â phwysigrwydd codi safonau mewn ysgolion.

Wrth siarad yn ystod hustyngau oedd wedi ei drefnu gan dri o'r undebau athrawon, dywedodd Huw Lewis bod dal angen profion allanol mewn ysgolion.

Ond mynnodd mai'r nod yn yr hir dymor yw "system sydd yn gwella ei hun".

Mae'r maes llafur newydd ar gyfer ysgolion Cymru yn awgrymu na ddylai disgyblion gael eu profi mor aml.

Ond mae'r gweinidog yn dweud bod angen profion allanol tra bod y newidiadau yn dod i rym er mwyn cadw hyder yn y system addysg.

Cadw'r profion

Mae disgyblion rhwng saith ac 14 wedi bod yn gwneud profion darllen a rhifedd yng Nghymru ers tair blynedd gyda'r nod o wella safonau.

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas, y byddai yn cadw profion cenedlaethol darllen a rhifedd tan fod yna ffyrdd eraill i gadw golwg ar gynnydd.

Yn ôl Richard John o'r Ceidwadwyr Cymreig mae'r profion yn "bwysig er mwyn monitro cynnydd disgyblion".

Wrth gyfeirio at gyflawni canlyniadau gwell mewn profion dywedodd Aled Roberts, AC y Democratiaid Rhyddfrydol, bod rhai ysgolion "yn well am chwarae'r gêm nag eraill".

Ond dywedodd bod "disgwyliadau rhieni" yn golygu na fyddai modd cael gwared a'r system bresennol.

'Dim mwy o wadu'

Dywedodd y gweinidog nad oedd yn ymwybodol o unrhyw ysgolion "oedd yn chwarae gemau gyda'r system".

Ychwanegodd: "Dim mwy o wadu. Yr unig ffordd i gyflawni system sydd yn gwella ei hun, mynd i'r afael gyda'r maes llafur y mae pawb yn gyffrous amdano a chyflawni system well i bawb ydy codi lefel y dysgu mewn ysgolion ac mae hynny i gyd yn dibynnu arnoch chi."

Doedd neb i gynrychioli UKIP yn yr hustyngau, ond mae'r blaid yn dweud y bydden nhw yn ail-gyflwyno ysgolion gramadeg fel rhan o'r ymdrech i roi cyfleoedd i blant ddatblygu.