Cadarnhau gwaharddiad AS Reform Laura Anne Jones am bythefnos

Laura Anne Jones
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Senedd wedi cefnogi argymhelliad i wahardd yr unig aelod o blaid Reform am 14 diwrnod am dorri'r cod ymddygiad, oherwydd sylwadau sarhaus a wnaeth mewn sgwrs WhatsApp.

Cafodd y cynnig ei basio yn ddiwrthwynebiad.

Ym mis Awst 2023, defnyddiodd Laura Anne Jones sarhad hiliol i ddisgrifio pobl Tsieineaidd.

Wrth argymell y gosb, dywedodd pwyllgor safonau'r Senedd "nad oes lle i sylwadau amhriodol a sarhaus yn ein Senedd nac yn ein cymdeithas yn ehangach".

Ymddiheurodd Ms Jones "eto" am "sylwadau anffodus" mewn "neges breifat".

"Rwy'n derbyn yn llwyr" yr adroddiad, meddai, "doeddwn i erioed wedi bwriadu achosi unrhyw dramgwydd."

"Rwyf wedi bod mewn cysylltiad gweithredol â'r gymuned a grybwyllir."

Roedd yn ddagreuol wth siarad am yr effaith "dirdynnol" arni a'i theulu.

Mae'r gwaharddiad yn golygu na chaniateir iddi gymryd rhan mewn trafodion yn siambr y Senedd nac unrhyw bwyllgorau Bae Caerdydd dros y pythefnos nesaf ac na fydd yn cael ei thalu am y cyfnod hwnnw.

Fe wnaeth pwyllgor safonau'r Senedd argymell y gwaharddiad o 14 diwrnod yn dilyn ymchwiliad hir gan gomisiynydd safonau'r Senedd, Douglas Bain, dolen allanol.

Canfu fod Laura Anne Jones wedi gwneud sylwadau sarhaus ar WhatsApp a nad oedd hi wedi cymryd camau pan wnaeth un o'i staff sylwadau sarhaus yno.

Roedd Ms Jones, sy'n cynrychioli de ddwyrain Cymru, yn AS Ceidwadol pan wnaed yr honiadau.

Pynciau cysylltiedig