17% siaradwyr Cymraeg sy'n ffafrio'r iaith gyda sefydliadau cyhoeddus

Mae Efa Gruffudd Jones wedi bod yn Gomisiynydd y Gymraeg ers 2022
- Cyhoeddwyd
Dim ond 17% o siaradwyr Cymraeg sy'n dweud ei bod yn well ganddyn nhw ddefnyddio'r iaith gyda sefydliadau cyhoeddus, yn ôl arolwg blynyddol Comisiynydd y Gymraeg.
Nododd 71% bod yn well ganddyn nhw ddefnyddio'r Saesneg, gyda 12% yn nodi ei bod yn amrywio.
Rhai o'r ffactorau pennaf sy'n effeithio ar ddewis iaith yw'r pwnc neu ddefnydd o eirfa dechnegol (37%), hyder personol a theimlo'n gyfforddus i ddefnyddio'r Gymraeg (16%), argaeledd siaradwr Cymraeg (11%) a'r person arall yn siarad Cymraeg yn gyntaf (7%).
Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, bod hyn yn dangos yn "amlwg bod heriau'n parhau".
'Teimlo'n gyfforddus ac yn barod'
Mae'r comisiynydd yn comisiynu arolwg blynyddol o farn siaradwyr Cymraeg am wasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus, a'u barn am gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.
Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi yn adroddiad blynyddol 2024-25 y comisiynydd a gafodd ei "nodi" gan Aelodau o'r Senedd ddydd Mawrth.
Dywedodd Mr Drakeford bod yr ystadegau uchod yn "dangos bod angen parhau i daclo rhwystrau i ddefnyddio'r Gymraeg, fel bod pobl yn teimlo'n gyfforddus ac yn barod i ddefnyddio'r Gymraeg yn naturiol".
Ychwanegodd bod "cynyddu defnydd o wasanaethau Cymraeg yn un o flaenoriaethau strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, ac hefyd i'r comisiynydd".
"Mae'r comisiynydd eisiau gweld cyrff yn gwella'r ffordd maen nhw'n hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg, er mwyn sicrhau bod mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o'r gwasanaethau hynny."

Mark Drakeford ydy'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Roedd 27% o'r ymatebwyr i'r arolwg o'r farn bod eu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus wedi cynyddu dros y flwyddyn flaenorol (cynnydd o 4%) a 53% o'r farn bod cyfleoedd wedi aros yr un peth.
Cyfeiriodd y comisiynydd yn yr adroddiad at ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg.
"Anogwyd sefydliadau i hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd, gan greu cynnwys i'w rannu ar gyfryngau cymdeithasol a gwefannau," meddai.
Ychwanegodd: "Mae'r ymgyrch wedi ennill ei lle ymysg ein partneriaid a'n rhanddeiliaid ac mae'r ymgysylltiad yn cynyddu'n gyson.
"Cafwyd bron i 150,000 o argraffiadau ar ein cynnwys yn ystod cyfnod yr ymgyrch, cynnydd o dros 20% o'i gymharu ag ymgyrch y llynedd.
"Pwysleisia hyn ein cenhadaeth nad cyfrifoldeb un person nac un sefydliad yw'r Gymraeg.
"Rydym am i bawb yng Nghymru ei pherchnogi a'i defnyddio."
Cynnydd ers 1999?
Dywedodd Tom Giffard o'r Ceidwadwyr yn ystod y ddadl mai "ychydig iawn o gynnydd gwirioneddol" a gafwyd yn sefyllfa'r Gymraeg ers datganoli yn 1999.
Cyfeiriodd at ganlyniadau y cyfrifiad diwethaf "a ddangosodd bod dim ond 17.8% o'r boblogaeth yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, y lefel isaf erioed a gofnododd, sy'n dangos y realiti, y diffyg cynnydd sydd wedi ei wneud i hybu siaradwyr Cymraeg ers datganoli, ac yn amlwg bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng ers 2001.
"Datgelodd y cyfrifiad hefyd anghyfartaleddau a gwahaniaethau daearyddol".
Cyfeiriodd Heledd Fychan ar ran Plaid Cymru at "bwysigrwydd cael y cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r dosbarth".
Gan gyfeirio at gamau gorfodi gan y comisiynydd pan nad oedd ymateb sefydliadau i gwynion yn ddigonol, meddai, "mae gwasanaethau hamdden yn hollol, hollol amlwg fel elfen hollbwysig o hynny, ond eto rydyn ni'n gweld bod hyn yn broblem, ac mewn mwy nag un awdurdod lleol".
Ymatebodd Mr Drakeford i hynny trwy ddweud "mae'n hollol bwysig, pan mae'r awdurdodau lleol yn rhoi'r cyfrifoldeb i roi gwasanaethau yn y maes hamdden [i gwmni neu fudiad allanol], mae'n bwysig iddyn nhw drosglwyddo'r cyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yn glir yn yr un modd".
Dywedodd yr aelod annibynnol Rhys ab Owen: "Nid gwaith hawdd yw cynnal iaith leiafrifol yng nghysgod iaith gryfaf y byd.
"Nid peth newydd na hawdd yw datrys lefel isel y defnydd o'r iaith Gymraeg. Rwy'n gweld hynny gyda fy mhlant fy hun.
"Er mai'r Gymraeg yw iaith yr aelwyd a bod y ddau riant yn siarad Cymraeg, mae'r plant yn dueddol o siarad Saesneg gyda'i gilydd. Nid peth newydd yw hynny, yn anffodus.
"Ond mae yna arwyddion o obaith: ffrindiau fy merch bum mlwydd oed sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg yn troi yn rhugl yn hynod o gyflym, mewn cyfnod byr iawn; tadau ifanc fel Matt o Swydd Gaint a Paddy o Essex yn ymdrechu i ddysgu'r Gymraeg."
'Pwysig dysgu gan sefydliadau sy'n arloesi wrth ddefnyddio'r Gymraeg'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Comisiynydd y Gymraeg 'wedi colli'i ffordd' - Cymdeithas yr Iaith
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Y Gymraeg: 'Rhethreg ond dim trawsnewid sylfaenol'
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
Mae cyllideb y comisiynydd wedi wynebu gostyngiadau cyson mewn termau real dros nifer o flynyddoedd, ac mae'r dyraniad £3.48m yn y gyllideb yn is na'r £4.1m a gafodd ei ddyrannu i'r comisiynydd pan gafodd ei sefydlu yn 2012.
Er bod y comisiynydd yn disgwyl cynnydd cyllidebol o ychydig dros 2% ar gyfer 2026-27, mae wedi dweud wrth bwyllgor diwylliant y Senedd y byddai hyn yn "ddigonol, gobeithio, inni gwrdd â chodiadau costau byw ein swyddogion ni... ond dim byd arall mewn gwirionedd o ran datblygu ein gweithgareddau."
Yn ystod y flwyddyn adrodd, gadawodd pedwar aelod o staff drwy gynllun ymadael gwirfoddol.