Dechrau'r gwaith o adeiladu ffordd osgoi ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Traffic

Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu ffordd osgoi hir-ddisgwyliedig gwerth £53m, sydd â'r nod o leddfu tagfeydd o amgylch tref ym Mhowys, ddechrau ddydd Llun.

Bydd ffordd osgoi'r Drenewydd yn ymestyn pedair milltir o Ffordd Llanidloes, sydd i'r gorllewin o'r dref, i Pool Road yn y dwyrain.

Mae cytundeb o adeiladu'r ffordd wedi ei ddyfarnu i gwmni Alun Griffiths Cyf a bydd tua 90 o swyddi a phrentisiaethau yn cael eu creu.

Mae rhan o'r ffordd wedi ei ail-gyfeirio i amddiffyn coeden dderw 500 oed.

Fe arwyddodd bron i 5,000 o bobl ddeiseb mewn ymgais i amddiffyn y Brimmon Oak, a oedd yn sefyll ar lwybr gwreiddiol y ffordd osgoi.

Ffynhonnell y llun, Treehunter.co.uk
Disgrifiad o’r llun,

Y goeden dderw 500 oed