Merched yn bennaf yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod mae Cyngor Sir Ceredigion yn dathlu carreg filltir flaengar eleni.
Am y tro cyntaf erioed, menywod sydd yn meddu ar swyddi'r Cadeirydd, Arweinydd a Phrif Weithredwr. Hwn yw'r unig gyngor yng Nghymru gyfan sydd â menywod wrth y llyw ym mhob un o'r prif swyddi.
Cafodd y Cynghorwyr Ellen ap Gwynn a Gill Hopley ill dwy eu hethol yn 1999. Bellach maen nhw'n Arweinydd a Chadeirydd Cyngor Ceredigion.
Daeth Bronwen Morgan yn Brif Weithredwr benywaidd cyntaf y Cyngor yn 2007.
"Does dim gwahaniaeth amlwg i'r ffordd mae'r cyngor yn cael ei redeg drwy gael tair menyw wrth y llyw." meddai Bronwen Morgan, a ddaeth yn Brif Weithredwr benywaidd cyntaf Cyngor Ceredigion yn 2007.
"Mae pob ymchwil yn dweud bod merched yn medru edrych ar broblemau yn wahanol ac efallai i gael datrysiad ohonyn nhw... (ond) bydden i'n meddwl yn y pen draw mai'r ffordd ydach chi'n dod at y penderfyniad a'r datrysiad sydd yn wahanol yn hytrach na'r penderfyniad ei hun."
'Anodd perswadio merched'
Daeth y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yn Arweinydd benywaidd cyntaf erioed yn hanes yr Awdurdod yn 2012 ac, yn bresennol, hi yw'r unig arweinydd cyngor sir benywaidd yng Nghymru.
"Mae'n anodd darbwyllo merched o hyd i gymryd at swyddi cyhoeddus," meddai.
"Dros y blynyddoedd dwi di bod yn ceisio cymell merched i sefyll mewn etholiad Cyngor Sir i geisio cynyddu'r niferoedd ohonon ni, achos 6 ohonon ni sydd allan o 42 yma yng Ngheredigion - er bod 'na ddwy ohonon ni ar hyn o bryd mewn swyddi rheoli.
"Mae'n anodd perswadio merched i gael yr hyder i gymryd at y pethe 'ma" meddai Ellen ap Gwynn. "Dwi'n meddwl os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth, mae'n rhaid i chi roi'ch meddwl arno fe ac yna unwaith llwyddwch chi mae'n rhaid eich bod chi'n gallu dangos eich bod chi'n gallu ei wneud e".
Ers Mis Mai 2015, y Cynghorydd Gill Hopley ydy Cadeirydd Cyngor Ceredigion. Hi ydy'r ail ddynes i ymgymryd â'r swydd honno ers dyfodiad Cyngor Ceredigion adeg ail-drefnu llywodraeth leol yn 1996.
Wrth adlewyrchu ar ei phrofiadau, dywedodd y Cynghorydd Hopley: "Mae bywyd yn llawn o brofiadau diddorol ac weithiau heriol. Peidiwch byth â rhoi'r gorau i wrando a dysgu a bydd eich bywyd yn llawn".
Yn ôl y Cynghorydd Ellen ap Gwynn mae gan Gyngor Ceredigion gynllun mentora i gynorthwyo merched, pobl iau a phobl o gefndiroedd ethnig, er mwyn ceisio cynyddu'r nifer sy'n mentro i fyd llywodraeth leol. "Da ni eisiau ehangu y gorwelion allan o ddynion gwyn mewn siwtiau llwyd fel ein bod ni'n cael bach mwy o liw ar draws ein cynghorau ni.
"Mae'n ddigon hawdd rhoi'r strategaeth yn ei le ar lefel uwch, ond mae'n rhaid i chi weithio yn lleol gyda phobl un i un i'w darbwyllo nhw.
"Dwi yn mentora gwraig ifanc sydd bellach yn gynghorydd lleol yn Llanbedr Pont Steffan, a dwi'n gobeithio'n fawr y bydd hi'n ymgeisydd ar gyfer etholiad y Cyngor Sir y flwyddyn nesa"
A fo ben bid bont ydy hi yn achos Cyngor Sir Ceredigion felly ar ddiwrnod rhyngwladol y Merched.