O Fethesda i Efrog Newydd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd actores o Gymru yn perfformio rhan o nofel gan Bethan Gwanas yn Efrog Newydd fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Menywod ar 8 Mawrth.
Yr actores Gwenfair Vaughan sydd wedi ei dewis i gynrychioli Cymru yn y digwyddiad i ddathlu etifeddiaeth a diwylliant menywod o 25 o wledydd y byd yn theatr Dixon Place.
Darn o'r nofel I Botany Bay, sy'n adrodd hanes merch ifanc sy'n cael ei halltudio i Awstralia, fydd yn cloi'r noson.
"Mae Cymru'n headlinio!" meddai Gwenfair, sy'n wreiddiol o Fethesda ond sydd wedi bod yn byw yn yr Unol Daleithiau ers 12 mlynedd.
Bydd Gwenfair yn perfformio darn yn Gymraeg ac yn gwneud cyflwyniad am yr iaith cyn cyflwyno trosiad gan Bethan Gwanas o'i gwaith ei hun i'r Saesneg.
Mae'r artistiaid eraill yn cynrychioli gwledydd mor amrywiol â Lloegr, Yr Alban, Ffrainc, Hwngari, Siapan, China, Puerto Rico a mwy - i gyd yn cyflwyno gwaith gan artist benywaidd o'u mamwlad.
Llais i ferched
Pwrpas y noson ydy "dangos bod gan ferched lais yn y gwledydd maen nhw 'sgrifennu neu'n cyfansoddi ynddi," meddai Gwenfair wrth Cymru Fyw.
"Dydi crefft a gallu artistiaid benywaidd ddim yn cael ei gydnabod mewn lot o wledydd.
"Er ei bod hi'n 2016, 'dan ni fel merched yn dal yn gorfod brwydro yn ddyddiol i gael cydnabyddiaeth yn y gweithle, i gael tâl cydradd ac i gael hawliau dynol elfennol mewn gwledydd llai ffodus na'r rhai 'dan ni'n byw ynddyn nhw.
"Er ein bod ni wedi dod yn bell 'dan ni isio mynd ymhellach."
Cafodd Gwenfair ei dewis drwy ei gwaith gyda chwmni drama yr Irish Rep yn Efrog Newydd a dewisodd y darn gan Bethan Gwanas ar ôl sgwrs gyda'r awdures.
"Roeddwn i'n credu bod y darn yn addas oherwydd ei fod yn waith gan 'sgrifenwraig gyfoes yn 'sgrifennu am hanes o Gymru ac felly ei fod yn cynrychioli dau beth - darn o hanes ond mewn modd modern o 'sgrifennu.
"Dwi'n credu ei fod yn rhoi blas o beth sydd ar gael yn yr iaith Gymraeg yng Nghymru ac yn ddarn fydd yn cyffwrdd â'u calonnau."
'Disgwyliadau lloerig'
Ar ôl bod yn wyneb cyfarwydd ar deledu yng Nghymru mewn cyfresi fel Pobol y Cwm, Halen yn y Gwaed a'r Palmant Aur, symudodd Gwenfair i Efrog Newydd yn wreiddiol i astudio dull actio 'method' enwog Stanislavski.
Hi sy'n lleisio cymeriad Mrs Tiggy-Winkle yn y gyfres gartŵn Peter Rabbit sydd i'w gweld yn yr Unol Daleithiau, Awstralia ac ar sianel CBeebies y BBC.
Mae hi wrth ei bodd yn byw yn Efrog Newydd meddai ond mae'n fyd cystadleuol ac mae hi'n dweud fod 'na "ddisgwyliadau lloerig" i fenywod yn y busnes.
"Pan mae rhywun yn darllen y character breakdown, sef y disgrifiad o'r cymeriad yn y ffilm, cyfres deledu neu ddrama lwyfan, dydi'r disgrifiadau o ferched ddim yn gymharol efo dynion. Mae disgwyl i ddynes fod yn brydferth.
"Mae 'na bwyslais mawr ar ddelwedd yn enwedig pan mae rhywun yn mynd yn hŷn. Mae'n hollol dderbyniol i ddyn gael gwallt sy'n britho - mae'n cael ei ystyried yn rhywiol, distinguished, ond fydda' fo ddim yn dderbyniol fod gwallt dynes wedi britho."
'Cyfoeth diwylliannol'
Mudiad International Women Artists' Salon sy'n cynnal y digwyddiad yn Dixon Place.
Bydd y perfformiadau yn amrywio o fonologau i ganeuon a dawns gyda'r nod o ddathlu etifeddiaeth a chyfoeth diwylliannol gan ferched o gwmpas y byd.
Mae'r nofel I Botany Bay yn olrhain hanes 300 o ferched gafodd eu halltudio o Gymru i Botany Bay rhwng 1787 ac 1852 ac mae wedi ei seilio ar ddigwyddiadau go iawn.
"Merched ifanc oedden nhw i gyd, llawer yn eu harddegau a'u hugeiniau cynnar; morynion o bentrefi bychain a ffermydd anghysbell ac eraill fu'n cerdded strydoedd tywyll y trefi mawrion fel Abertawe, Merthyr Tudful a Chaerdydd," meddai Bethan Gwanas.
"Dim ond dwyn bara, bacwn, bresych, hen sgidiau neu ambell ddilledyn oedd camwedd y rhan fwyaf ohonynt, ond yr un oedd y ddedfryd: isafswm o saith mlynedd ym mhen draw'r byd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2016