Didcot: Beirniadu'r chwilio am bobl sydd ar goll

  • Cyhoeddwyd
Christopher Huxtable a Jade AliFfynhonnell y llun, Jade Ali
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jade Ali ei bod 'yn y tywyllwch' am y chwilio am ei phartner Christopher Huxtable

Mae teuluoedd dau o'r tri pherson sydd yn dal ar goll wedi i bwerdy Didcot ddymchwel wedi beirniadu ymdrechion y gwasanaethau brys i ddod o hyd i'r dynion.

Dywedodd Jade Ali, 28 oed o Abertawe, ei bod wedi cael ei chadw "yn y tywyllwch" am yr ymdrech i chwilio am ei phartner Christopher Huxtable, 34 oed.

Mae Mr Huxtable yn un o'r tri dyn y credir iddyn nhw fod yn sownd o dan weddillion yr hen orsaf bŵer.

Dywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch mai ei flaenoriaeth oedd canfod cyrff yn y rwbel.

Ond fe ddywed Ms Ali ei bod yn teimlo bod y gwasanaethau wedi rhoi'r gorau i chwilio yn rhy fuan.

"Mae yna obaith o hyd y gallai Christopher fod yn fyw," meddai.

Bu farw un person, ac fe gafodd pump arall eu hanafu pan wnaeth hanner yr adeilad deg llawr ddymchwel ar 23 Chwefror.

Dywedodd yr heddlu ei bod yn "hynod annhebygol" bod y rhai sydd yn dal ar goll yn fyw o hyd, ac y gallai dod o hyd i'r cyrff gymryd "wythnosau lawer".