Stelcwyr: Ymgyrch i adnabod ymddygiad
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch newydd ar droed i godi ymwybyddiaeth am beryglon pobl sy'n stelcio cyn bartneriaid.
Heddlu Gwent fydd y llu cynta yng Nghymru a Lloegr i gael hyfforddiant newydd yn y maes.
Rhwng 2012 a 2015 roedd 250 o bobol yng Nghymru wedi cysylltu gyda'r heddlu i gwyno am stelcwyr honedig, ac fe gafodd 90 o bobol eu cyhuddo yn ôl elusen.
Fe gafodd y gyfraith ei newid yn Nhachwedd 2012 i wneud stelcian yn drosedd.
Mae Network for Surviving Stalking am helpu pobl i adnabod ymddygiad sydd gyfystyr â stelcio cyn i gyn bartneriaid droi'n dreisgar.
'Teimlo'n anghyfforddus'
Yn ôl yr elusen mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod nifer fawr o fenywod sy'n cael eu llofruddio gan gyn gariadon wedi cael eu dilyn ganddyn nhw cyn eu marwolaeth.
Cafodd Assia Newton, 45 o Bencoed ei llofruddio gan ei chyn ŵr Kelvin Newton yn 2013.
Dywedodd ei chwaer Nadia Salaman wrth BBC Cymru ei bod yn credu y gallai Assia fod yn fyw nawr pe bai ymddygiad ei chyn ŵr wedi cael ei adnabod ar y pryd.
Dywed Mrs Salaman bod Kelvin Newton yn troi lan heb rybudd gan wneud iddi deimlo'n anghyfforddus: "Roedd e yno bob bore am wyth o'r gloch, gan ddweud ei fod yn gwneud paned i fy chwaer, gan adael ei hun i mewn i'r tŷ. Roedd hi'n dweud nad oedd hi am iddo fod yno. "
Fe ddaeth stelcio yn drosedd benodol yng Nghymru a Lloegr yn 2012.