Mwy na Geiriau: Cryfhau gwasanaethau iechyd Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
MeddygFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Ceisio sicrhau fod gwasanaethau iechyd i'w gael drwy gyfrwng y Gymraeg yw nod strategaeth newydd sy'n cael ei chyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ddydd Mawrth.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol fydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i geisio sicrhau fod mwy o fyfyrwyr yn dewis astudio pynciau iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

'Mwy na Geiriau' yw enw'r fframwaith newydd, fydd yn cael ei lansio gan Mr Drakeford yn Ysbyty Cwm Cynon am 10:00 ddydd Mawrth.

Bydd y strategaeth yn edrych ar gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Yn ôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae yna "gamau aruthrol" wedi'u cymryd dros y blynyddoedd diwethaf wrth benodi darlithwyr newydd ym meysydd Meddygaeth, Fferylliaeth, Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol, Therapi Iaith a Lleferydd a'r Gwyddorau Iechyd.

"Bellach mae cannoedd o fyfyrwyr yn hyfforddi pob blwyddyn fel gweithwyr iechyd dwyieithog," meddai llefarydd ar ran y coleg.

Ychwanegodd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Yn sgil buddsoddiad sylweddol gan y Coleg, mae'n bosibl i astudio cyrsiau Meddygaeth, Bydwreigiaeth a Therapi Iaith a Lleferydd yn ddwyieithog am y tro cyntaf erioed ym mhrifysgolion Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae hyn yn gam mawr ymlaen i weld gweithlu dwyieithog i'r Gwasanaeth Iechyd yma yng Nghymru.

"Mae mwy o fyfyrwyr nag erioed o'r blaen yn astudio rhan o'u cyrsiau iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae angen gwneud mwy i ddenu myfyrwyr i'r maes iechyd ac edrychwn ymlaen yn fawr i gydweithio gyda Phrifysgolion Cymru a'r Llywodraeth i ymateb i'r her yma."