Galw am achub gwasanaeth cwnsela i bobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
A sad child on a swingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sandy Bear yn helpu plant sy wedi cael profedigaeth

Mae bron i 3,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am achub gwasanaeth cwnsela ar gyfer plant sydd wedi cael profedigaeth.

Mae gwasanaeth Sany Bear yn cael ei roli gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ac yn cael ei ariannu gan gyngor sir Benfro.

Ond mae ei ddyfodol yn cael ei adolygu ar ôl i'r cyngor ddweud nad yw o bosib yn gallu parhau a'r lefel presennol o gymorth ariannol.

Dywed y cyngor eu bod yn wynebu toriadau yn eu cyllideb o du llywodraethau Cymru a San Steffan.

Dywedodd Nina Evans iddi hi lunio'r ddeiseb oherwydd bod y gwasanaeth wedi ei helpu hi ar ôl marwolaeth ei gwr yn 2011.

Dywedodd fod ei theulu wedi ei chael yn anodd dod i delerau, a bod Sandy Bear wedi cynnal sesiynau wythnosol ar gyfer ei mab pump oed.

"Fe wnaethant helpu gyda chadw pethau er cof am ei dad a nifer o weithgareddau eraill - y rhain i gyd yn helpu iddo ddeall pam fod ei dad wedi mawr," meddai.

"Ni fyddwn yn hoffi meddwl am le y byddai'r mab nawr pe na bai wedi bod yn ddigon ffodus i elwa o gefnogaeth Sandy Bear."

Dywedodd Libby Ryan-Davies, cyfarwyddwr iechyd meddwl ac anableddau dysgu gyda Hywel Dda, fod y bwrdd yn adolygu Sandy Bear oherwydd lleihad yng nghyfraniad ariannol cyngor Sir Benfro.

Dywedodd llefarydd ar ran Sir Benfro y byddai penderfyniad terfynol yn cymryd i ystyriaeth y gwasanaethau eraill sy ar gael yn y sir sy'n rhoi cefnogaeth emosiynol i blant a phobl ifanc.

"Mae gan bob ysgol uwchradd yn y sir y modd i gysylltu â chwnsler, ac rydym yn datblygu rôl cynorthwywyr yn yr ysgolion i gynnwys cefnogaeth emosiynol. "

Ffynhonnell y llun, Getty Images