Treth cyngor i gynyddu £47 ar gyfartaledd
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i berchnogion tai dalu £47 yn fwy o dreth cyngor ar gyfartaledd ar gyfer eiddo ym mand D yng Nghymru o fis Ebrill ymlaen.
Mae ffigyrau swyddogol yn dangos cynnydd cyfartalog o £1,374 yn 2016/17, sy'n cynnwys treth cyngor, a thaliadau i gymunedau cyngor a'r heddlu.
Blaenau Gwent yw'r ardal ddrytaf, ble mae'r ffi flynyddol yn £1,695. Castell-nedd Port Talbot a Merthyr Tudful sy'n dilyn.
Yn Sir Benfro mae'r trethi isaf, sef £1,071.
Bydd cynnydd ym mhob un awdurdod lleol wrth i gynghorau geisio cadw dau ben llinyn ynghyd yng nghanol rhagor o doriadau i'w cyllidebau.
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Steve Thomas fod y cynnydd diweddara' yn "gyson" gyda'r rhai sydd wedi bod dros y 10 mlynedd ddiwetha'.
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n ceisio cynnal rhagor o wasanaethau ar sail incwm treth cyngor.
"Fydden ni'n hoffi ei weld yn is? Mae'n bosib, ond os ydyn ni eisiau talu am y gwasanaethau hyn, mae trethi cyngor yn hollbwysig i awdurdodau lleol."
Yr wythnos ddiwetha', daeth adroddiad i'r casgliad fod angen ailwampio'r system treth cyngor a gwerthuso tai, gan fod 11 mlynedd ers i'r bandiau treth gael eu hadolygu'r tro diwetha'.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2016