Gallai cau gwaith dur Tata Port Talbot 'daro 15,000'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd yn honni y gallai 15,000 o swyddi gael eu colli os na ddaw prynwr i'r fei i waith dur Tata ym Mhort Talbot.
Mae cwmni Tata o India wedi dweud eu bod am werthu'u busnes dur yn y DU, a dydyn nhw ddim wedi addo cadw'r ffatr茂oedd ar agor am gyfnod amhenodol yn ystod y broses o'u gwerthu.
Ym Mhort Talbot mae ffatri fwyaf y cwmni yn y DU gyda 4,000 o weithwyr. Ond mae'r cynghorydd a'r cyn-weithiwr dur, Tony Taylor, yn credu y byddai cau'r ffatri yn cael effaith llawer ehangach.
Dywedodd bod swyddi contractwyr a phobl sy'n gweithio yn y gadwyn gyflenwi hefyd yn y fantol- ac y dylai'r llywodraeth ymyrryd i roi "cyfle cyfartal" i Bort Talbot.
Cynulliad yn cwrdd
Mae aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael eu galw'n 么l i'r Senedd i drafod yr argyfwng ddydd Llun.
Ond fe gafodd galwad gan Lafur i alw ASau yn 么l i San Steffan ei wrthod.
Hefyd, fe fydd y Prif Weinidog David Cameron yn cadeirio cyfarfod o weinidogion allweddol ddydd Iau, tra bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn cwrdd gyda phenaethiaid cwmni Tata.
Dywedodd gweinidogion eu bod yn ystyried "pob dewis" ar gyfer Port Talbot, ac un o'r rheini fyddai rheolwyr y ffatri yn ei phrynu.
Deallir bod ffatri Port Talbot yn colli 拢1m y dydd.
Yn 么l rhai ffynonellau, mae rheolwyr y ffatri eisoes wedi dyfeisio cynllun i achub y ffatri, sy'n gan mlwydd oed.
Cafodd eu cynllun gwreiddiol i ailstrwythuro ei wrthod ddydd Mawrth pan gyhoeddodd cwmni Tata eu bod am werthu'r busnesau mewn cyfarfod ym Mumbai.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Taylor: "Rhaid i chi ystyried y 3,000 sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol, 3,000 o gontractwyr, 6,000 yn y gadwyn gyflenwi ac yna mae gennych chi bobl sy'n dibynnu ar y diwydiant dur.
"Ry'n ni'n s么n am 15,000 o swyddi fyddai'n cael eu colli mewn cymuned fel Castell-nedd Port Talbot.
"Mae'r bobl yna'n gallu gwneud y dur gorau yn y byd i gyd, ac maen nhw'n haeddu'r cyfle i oroesi.
"Os yw hynny'n golygu'r llywodraeth yn dod i mewn a chynnig cymorth dros dro, yna dyna fel y dylai fod.
"Rhowch gyfle cyfartal i ni. Os oes prynwr newydd yn dod i'r fei, yna mae'n rhaid i ni sicrhau bod rhywbeth yna iddyn nhw'i brynu.
"Yn y tymor byr mae angen i lywodraethau Cymru a San Steffan i weithio mewn partneriaeth i roi hwb tymor byr i'r ffatri fel y gall prynwr gael hyder wrth fuddsoddi ac i sicrhau bod diwydiant dur hyfyw yn weddill i'r cenhedloedd i ddod."