Llafur yn addo creu cronfa gyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Carwyn Jones gyhoeddi y byddai Llafur yn creu cronfa o £80m i dalu am gyffuriau newydd ar y Gwasanaeth Iechyd, pe bai nhw'n ffurio'r llywodraeth nesa ar ôl etholiad 5 Mai.
Bydd Mr Jones yn defnyddio'r ymweliad â'r gogledd er mwyn dwyn sylw at yr addewid, a ddaw wedi dadl wleidyddol hir ar ddefnydd Llywodraeth y DU o gronfa cyffuriau canser yn Lloegr.
Dros gyfnod y pedwerydd Cynulliad, mae'r Ceidiwadwyr wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun tebyg.
Bydd y cynllun yn Lloegr yn cael ei ailstrwythuro'r haf yma.
'Hollol wahanol'
Dywedodd Mr Jones fod cynlluniau Llafur yn "hollol wahanol" a'i fod yn ymwneud â chyflyrau eraill, nid canser yn unig.
"Mae meddyginiaethau newydd yn cael eu datblygu bron yn wythnosol ond mae llawer yn ddrud i'r GIG.
"Bydd ein Cronfa Driniaeth newydd yn sicrhau fod gan y GIG y nawdd yn syth ar gyfer y cyffuriau fel y gall pobl Cymru gael gafael ar driniaethau arloesol ar gyfer pob cyflwr wrth iddyn nhw gael eu cymeradwyo.
"Yn wahanol i Gronfa Canser y Torïaid, gafodd ei roi i'r neilltu yn Lloegr fis diwethaf, bydd hwn yn delio â phob cyflwr, nid dim ond canser."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y bydden nhw'n creu cronfa ganser gwerth £100m petaen nhw'n ennill yr etholiad, tra bo maniffesto etholiad Plaid Cymru'n addo £50m ar gyfer 'Cronfa Meddyginiaethau a Thriniaethau Newydd'.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y bydden nhw'n ymestyn y Gronfa Technolegau Iechyd, sy'n talu am offer penodol newydd ar gyfer y GIG, sydd hefyd yn cynnwys meddyginiaethau newydd.
Mae UKIP yn cynllunio strategaeth benodol ar gyfer canser yng Nghymru, sy'n cynnwys penodi nyrs i ofalu am bob claf sy'n cael diagnosis canser.