Cofio ymgyrch gyffuriau Operation Julie
- Cyhoeddwyd
Pedwardeg o flynyddoedd i'r penwythnos hwn fe wnaeth yr heddlu weithredu un o'r cyrchoedd gwrthgyffuriau mwyaf erioed, a hynny yn siroedd Ceredigion a Phowys.
Fe wnaeth 800 o swyddogion o 10 llu gwahanol gymryd rhan yn Operation Julie, gan ddod a dau rwydwaith cynhyrchu a chyflenwi'r cyffur LSD i ben.
Y rhwydweithiau hyn oedd yn gyfrifol am gyflenwi 90% o'r cyffur i'r farchnad Brydeinig.
Roedd ymgyrch yr heddlu yn cynnwys swyddogion arbenigol oedd wedi treulio'r rhan fwyaf o 1976 yng nghefn gwlad Cymru wedi eu gwisgo fel hipis.
Er mwyn tynnu sylw oddi ar yr ymgyrch gwrthgyffuriau, fe wnaeth rhai swyddogion cudd ymladd gyda'r heddlu lleol, oedd ddim yn ymwybodol o wir bwrpas yr 'hipis' oedd yno.
Yn ôl un stori bu'n rhaid i swyddogion cudd dreulio rhan fwyaf o un diwrnod yn gwrando ar Radio Cymru, yr un sianel oedd â signal - a hynny gan fod defaid wedi cnoi drwy'r dyfeisiadau bygio oedd wedi eu gosod yng nghartref un o arweinwyr y rhwydwaith gyffuriau, Richard Kemp.
Yn Llanddewi Brefi cafodd swyddogion cudd eraill eu hamau o fod yn rhan o "gwlt hoyw", ac o ganlyniad bu'n rhaid cyflwyno swyddogion benywaidd i'r gwaith.
Un o'r swyddogion benywaidd hyn oedd Sarjant Julie Taylor, ac fe fyddai'r ymgyrch yn y pendraw yn mabwysiadu ei henw cyntaf.
Cafodd ei henw ei ddefnyddio mewn un o ganeuon The Clash o'r cyfnod, sef 'Julie's Been Working for the Drug Squad'.
Ond er yr agweddau ysgafnach o'r ymgyrch, daeth yr heddlu o hyd i 6.5 miliwn o ddarnau papur unigol oedd yn cynnwys LSD a thystysgrifau cyfranddaliadau mewn banc yn y Swistir oedd werth miliynau.
Roedd Lyn Ebenezer, awdur 'Operation Julie: The World's Greatest LSD Bust', yn gweithio fel newyddiadurwr llawrydd yn yr ardal ar y pryd.
Mae'n credu mai'r gwrthgyferbyniad rhwng yr agweddau comig a difrifol sydd wedi gwneud i Operation Julie aros yn y cof mor hir mewn gwahanol lyfrau, ffilmiau a dramâu radio a theledu.
"Ar y pryd roedd Sir Gaerfyrddin yn brifddinas gwrth-ddiwylliant," meddai.
"Roedd y Rolling Stones, John Lennon a Jimi Hendrix i gyd wedi mynd i'r ardal ar bererindod, a dyw'n ddim syndod bod yr ardal wedi bod yn ganolbwynt i gynhyrchu LSD.
"Ond doedd gennym ni ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen gyda'r grwpiau rhyfedd hyn oedd wedi symud i mewn.
"I fod yn onest, os oedd rhywun yn fwy tebygol o fod yn gwerthu cyffuriau yna'r heddlu yn ymddwyn fel hipis oedden nhw, ac roedd y delwyr go iawn y bobl broffesiynol oedd wedi cael addysg oedd yn cymysgu'n dda gyda'r gymuned.
"Fe fyddai'r cyflenwyr cyffuriau a'r heddlu i gyd yn yfed gyda'i gilydd yn y dafarn yr un pryd, yn gwneud pob math o ddrygioni dwl, felly pan ddaeth y cyrchoedd yn y pen draw fe gawson ni gythraul o sioc."
Cafodd yr heddlu awgrym cyntaf o fodolaeth y rhwydwaith gyffuriau yn 1975 pan fu cerbyd Range Rover y cemegydd Richard Kemp o Brifysgol Lerpwl mewn gwrthdrawiad angheuol ger Machynlleth.
Daethpwyd o hyd i ddeunydd yn y cerbyd oedd yn cynnwys y geiriau "hydrazine hydrate", sydd yn gynhwysyn o LSD.
Cafodd Kemp ei recriwtio yn 1969 gan yr awdur David Solomon o Gaergrawnt i gynhyrchu'r cyffur, yn gyntaf fel arbrawf cymdeithasol i greu heddwch byd-eang drwy "ymestyn yr ymennydd".
Fe ofynnodd y gang i Henry Todd drefnu gwerthiant y cyffur, ond erbyn 1973 bu ymgecru rhwng aelodau, ac fe symudodd Kemp a Solomon y gwaith o gynhyrchu'r cyffur o Gaergrawnt i orllewin Cymru.
Fe wnaeth 'hipis' ymgyrch Julie gadw llygad ar gartref Kemp yn Nhregaron, gan sylwi ar y daith gyson yr oedd yn ei wneud i Blas Llysyn, hen blasty yng Ngharno ger Llanidloes.
Fe wnaeth grŵp o 'hipis' eraill gadw llygad ar y plasdy hwnnw o hen garafán, ac fe ddaeth y swyddogion o hyd i ddŵr tu mewn i'r eiddo oedd yr un math o ddŵr oedd wedi ei ddefnyddio i gynhyrchu LSD.
Fe ddaeth cyrchoedd ar 87 cyfeiriad yng Nghymru, Llundain, Caergrawnt a Ffrainc rhwng mis Mawrth a Rhagfyr 1977 o hyd i gyfarpar labordai, dros £1m mewn arian parod a chyfranddaliadau, a digon o LSD i gynhyrchu 6.5 miliwn dos o'r cyffur.
Cafodd 120 o bobl eu harestio, gyda 15 o bobl yn eu cael yn euog gyda dedfrydau'n ymestyn i gyfanswm o 120 o flynyddoedd dan glo.
O ganlyniad fe gynyddodd cost 'tab' o LSD dros nos o £1 i £5.
Er hynny, dyw Lyn Ebenezer ddim yn credu bod ymgyrch Operation Julie yn gymaint o lwyddiant ag yr oedd wedi ei bortreadu.
"Fe wnes i ysgrifennu'r llyfr achos rwy'n credu bod gwaith blaenorol wedi awgrymu bod Operation Julie yn rhyw lwyddiant mawr yn y rhyfel yn erbyn cyffuriau, ond mewn gwirionedd fe wnaeth rhywfaint o niwed," meddai.
"Y rheswm pam bod Kemp a Solomon wedi gwahanu o'r Gang yng Nghaergrawnt oedd am fod Kent am gynhyrchu LSD mwy pur a diogel, ac wedi iddo gael ei ddal fe ddaeth y cyffur yn llawer mwy peryglus gan fod y bobl a ddaeth ar eu hol yn poeni llai am yr hyn yr oedden nhw'n ei ddefnyddio i gymysgu'r cyffur.
"Fe gafodd Kemp a'i gariad Christine Bott, ynghyd â nifer eraill eu croesawu'n ôl i orllewin Cymru wedi iddyn nhw gael eu carcharu, ond roedd y gwerthwyr cyffuriau ddaeth ar eu hôl yn fath llawer gwaeth, felly dydw i ddim yn siŵr faint o lwyddiant fydde chi'n gallu ei alw fe."
Ond mae ymgyrch Operation Julie yn parhau i fod yn enghraifft o gydweithio ar draws ffiniau lluoedd yr heddlu ac fe ddaeth oes newydd gyda math newydd o blismona yn ei sgil.
Yn 2010 fe brynodd yr actor Matthew Rhys yr hawliau ar lyfr Lyn Ebenezer, ond nid oes unrhyw waith o ran gwneud ffilm o'r stori wedi dechrau eto.