Cynulliad: 50 o eiriau ac ymadroddion yn 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
cynulliad

Mae dros 50 o eiriau ac ymadroddion wedi cael eu dyfarnu'n annerbyniol yng nghyfarfodydd llawn y Cynulliad ers datganoli, yn ôl rhestr a ddaeth i law'r BBC.

Geiriau yn awgrymu celwydd neu gamarwain sy'n ymddangos yn fwyaf aml ar y rhestr, ond hefyd ceir disgrifiad o'r Frenhines fel "paraseit" a "Mrs Windsor, dolen allanol".

Ymhlith y geiriau "anseneddol" a ddefnyddiwyd i ddisgrifio ACau eraill, roedd "cynffonnwr", "rhagrithwyr", "pathetig", a "fermin gwleidyddol".

Dim ond dau o'r geiriau a lefarwyd yn Gymraeg, sef cyfeiriad Elin Jones (sydd erbyn hyn wedi ei hethol yn Llywydd y Cynulliad) at Alun Michael ac eraill yn y blaid Lafur yng Nghymru yn 2002 fel "pwdls", ac Owen John Thomas yn cyhuddo llywodraeth y DU o "dwyll" ynghylch grantiau i ysgolion.

Mae David Melding, a aeth ymlaen i fod yn Ddirprwy Lywydd rhwng 2011 a 2016, i'w weld ar y rhestr yn groes i'r disgwyl efallai, ar ôl iddo ddweud bod Edwina Hart wedi dechrau araith "mewn ffordd braidd yn llechwraidd" yn 2007.

Fel yn San Steffan, dolen allanol, Senedd yr Alban, dolen allanol a Chynulliad Gogledd Iwerddon, dolen allanol, nid oes gan y Cynulliad restr swyddogol o eiriau anseneddol.

'Dibynnu ar y cyd-destun'

Yn ôl llefarydd ar ran y Cynulliad: "Nid oes rhestr o eiriau ac ymadroddion y dyfernir yn awtomatig eu bod allan o drefn neu yr ystyrir eu bod yn annerbyniol eu defnyddio yn y Cynulliad; mae dyfarniad y Llywydd yn dibynnu ym mhob achos ar y cyd-destun y caiff y geiriau eu defnyddio ynddo.

"Mae'n bosibl yr ystyrir bod yr union eiriau mewn trefn neu allan o drefn mewn gwahanol gyd-destunau."

Yn ôl Rheolau Sefydlog y Cynulliad, rhaid galw i drefn unrhyw aelod "sy'n euog o ymddygiad anghwrtais neu amhriodol, sy'n defnyddio iaith sy'n groes i'r drefn, iaith sy'n gwahaniaethu neu sy'n peri tramgwydd, neu iaith sy'n amharu ar urddas y Cynulliad", a "rhaid i aelod gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Llywydd ynghylch unrhyw ymddygiad sydd wedi peri ei alw i drefn".

Daeth y rhestr, a luniwyd gan swyddogion y Cynulliad ac sy'n cynnwys cwpl o regfeydd, i law wedi cais gan y BBC o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac ymhelaethwyd y rhestr i roi rhagor o gyd-destun ynghyd â chyfieithiad swyddogol y Cofnod.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol