Cwblhau gwaith cyfieithu Cofnod y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwaith o gyfieithu Cofnodion y Cynulliad na chafodd eu cyfieithu rhwng 2010 hyd 2012 bellach wedi ei gwblhau.
Erbyn hyn mae archif Cofnodion y cyfarfodydd llawn yn hollol ddwyieithog.
Yn gynharach eleni, dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei fod yn "rhyfeddod" nad oedd yr 80 dogfen dan sylw yn y cyfnod rhwng Gorffennaf 2010 hyd Ionawr 2012 wedi eu cyfieithu a'u cyhoeddi.
Mae Cofnod y Cyfarfod Llawn yn cael dros 2,000 o ymweliadau'r wythnos ar wefan y Cynulliad.
1999
Ers sefydlu'r Cynulliad yn 1999 roedd trawsgrifiadau o gyfarfodydd llawn wedi bod yn gwbl ddwyieithog tan i bwyllgor dan gadeiryddiaeth y llywydd ar y pryd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, benderfynu rhoi'r gorau i hynny.
Am gyfnod rhwng Gorffennaf 2010 hyd Ionawr 2012 roedd cyfraniadau aelodau yn y Siambr yn cael eu cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg ond ni chafodd cyfraniadau Saesneg eu cyfieithu.
Dywedodd Bwrdd yr Iaith bryd hynny bod Comisiwn y Cynulliad wedi torri ei gynllun iaith, dolen allanol, ac roedd y mater wedi rhannu aelodau a phleidiau.
Asgwrn y gynnen oedd cost cyfieithu pob gair o'r trafodaethau.
Wedi gwelliannau i'r Mesur Ieithoedd Swyddogol, dychwelwyd i'r drefn o gofnodi trafodaethau'r Cynulliad yn y cyfarfodydd llawn yn y ddwy iaith yn 2012, a gwnaed ymrwymiad i fynd yn ôl trwy'r archif i gyfieithu'r Cofnodion nad oedd yn ddwyieithog.
Nid yw trafodaethau pwyllgorau yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd22 Mai 2012
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2011