Cyhoeddi enillydd tlws John a Ceridwen Hughes

  • Cyhoeddwyd
TlwsFfynhonnell y llun, Urdd

Elin Williams o Lanbedr Pont Steffan sydd wedi ennill Tlws John a Ceridwen Hughes eleni - gwobr sy'n cael ei rhoi yn flynyddol i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.

Mae Elin wedi bod yn hyfforddi partïon llefaru Adran ac Aelwyd Llanbedr Pont Steffan ers dros 20 mlynedd ac wedi cael llwyddiant cyson gyda'i phartïon a'r unigolion mae hi'n hyfforddi.

Mae hefyd yn is-lywydd cangen Merched y Wawr Llambed ac yn Lywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Bro'r Dderi, ble mae hefyd yn hyfforddi'r aelodau i lefaru a pherfformio.

Cafodd wybod ei bod wedi ennill y wobr mewn noson oedd wedi ei threfnu gan yr Urdd a chwmni teledu.

Roedd Elin dan yr argraff ei bod yn rhoi gwers adrodd i'r digrifwr Gary Slaymaker, ond yng nghanol y wers, daeth y gyflwynwraig Heledd Cynwal i mewn a rhoi gwybod iddi mai oedd sydd wedi ennill Tlws John a Ceridwen eleni.

'Sioc'

Dywedodd Elin Williams: "Ro'n i wedi mynd ati o ddifri i roi cyngor i Gary a doeddwn i ddim yn gweld dim byd yn od yn y ffaith bod cynulleidfa o'm blaen - roedd y cyfan yn gwneud sens ar y pryd.

"Ond wedyn pan weles i Heledd Cynwal yn cerdded mewn nes i ddechrau poeni beth oedd yn mynd ymlaen a chael cymaint o sioc pan wedodd hi mod i wedi ennill Tlws John a Ceridwen.

"Mae yna bobl deilwng iawn wedi ennill y wobr yn y gorffennol ac r'on i'n eithriadol o falch fod cynifer o bobl ifanc wedi fy enwebu.

"Dydych chi ddim yn gwneud y gwaith er mwyn cael unrhyw gydnabyddiaeth - dwi'n ei wneud am fy mod yn joio ei wneud.

"Dwi'n licio meddwl ein bod yn cael sbort ac mae chwerthin yn rhan bwysig o bopeth ydw i yn ei wneud."

Ffynhonnell y llun, Urdd

'Athrawes hollol wych'

Mae Lowri Elen o Aelwyd Llambed wedi bod yn cael gwersi llefaru gan Elin ers 13 o flynyddoedd.

Dywedodd: "Mae Elin yn athrawes hollol wych a mor dalentog. Mae wedi cyfrannu cymaint i'r ardal dros y blynyddoedd a dwi wedi bod mor ffodus a lwcus o gael bod yn rhan o'i gyrfa fel hyfforddwraig.

"Mae'r ymarferion yn sbort ac rydym yn chwerthin gymaint - mwy nag adrodd ambell waith!"

Caiff Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled, ei rhoi gan Dewi a Gerallt Hughes, er cof am eu rhieni John a Ceridwen oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid.