Holi'r arweinwyr: Barn Cymry Ifanc
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos hon mae arweinwyr y pleidiau gwleidyddol wedi bod yn ateb cwestiynau'r gynulleidfa cyn Etholiad y Cynulliad 5 Mai.
Mae Cymru Fyw wedi gofyn i Theo Davies-Lewis a Greg Thomas - dau berson ifanc i roi eu hargraffiadau ynglŷn â'r dadleuon. Dyw'r ddau ddim wedi penderfynu eto pa blaid fydd yn cael eu pleidlais.
Dadl nos Lun - Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Greg: "Er 30 munud o ateb cwestiynau wnaethon ni ddim dysgu dim byd newydd ynglŷn â chynlluniau'r Ceidwadwyr os byddan nhw'n llywodraethu ym mis Mai."
Theo: "Heno, mi wnaeth Andrew RT Davies, y dyn sydd yn disgrifio ei hun fel '19-stôn o gig eidion Cymreig cysefin', wynebu cyhuddiadau o adael myfyrwyr Cymreig yn dlotach. Roedd yna feirniadaeth am anhrefn treth David Cameron a 'jolly' Sajid Javid yn ystod yr argyfwng TATA."
Greg: "Roeddwn i'n teimlo bod Andrew RT Davies wedi perfformio yn dda. Ond doedd yna ddim manylder i rai o'r ymatebion ac mi oedd y noson yn llawn sylwadau bachog. Mi fyddai atebion mwy manwl wedi bod yn braf."
Theo: "Mae Mr Davies yn talu'r pris am weithredoedd llywodraeth y DU. O ganlyniad, mae'n anodd i greu'r rhaniad 'clir' rhwng ei Blaid a'r sefydliad ledled y DU."
Dadl nos Fawrth - Nathan Gill, Arweinydd UKIP yng Nghymru
Theo: "Mae'r polau piniwn diweddaraf yn darogan y gallai 10 o ACau gael eu hethol ac mae hyn wedi rhoi momentwm i'r arweinydd."
Greg: "Mi oedd ychydig yn fwy stiff a llai cyffyrddus na'r hyn welon ni gan Andrew RT Davies nos Lun. Er hynny mae gan Gill y gallu unigryw i droi bron unrhyw gwestiwn fel ei fod yn canolbwyntio ar yr Undeb Ewropeaidd."
Theo: "Heno, roedd Gill yn dda iawn yn delio gyda phroblemau cywirdeb gwleidyddol y ddadl mewnfudo, ei safbwynt am ysgolion gramadeg a'r Undeb Ewropeaidd. Ond mi fydd rhai yn cwestiynu'r hyn ddywedodd am newid hinsawdd sef nad yw dyn yn gyfrifol."
Greg: "Tan i fi wylio'r ddadl dw i wedi bod yn reit ddifater ynglŷn â UKIP a gyda chydymdeimlad tuag at rai o'u safbwyntiau. Ond heno ac yn benodol oherwydd eu safbwynt ar newid hinsawdd, fyddai ddim yn pleidleisio iddyn nhw ar y rhestr ranbarthol. Er hynny dydw i ddim yn credu fod y blaid yn hiliol a dw i'n teimlo bod Gill wedi perfformio yn reit dda."
Dadl nos Fercher- Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru
Theo: "Mae Kirsty Williams wedi bod yn y Cynulliad o'r cychwyn. Nawr, yn 2016, mae hi'n ymladd am ddyfodol ei phlaid wleidyddol a'i sedd ei hun ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed."
Greg: "Kirsty Williams yw fy AC lleol. Felly mi oeddwn i'n edrych ymlaen i fynychu'r ddadl yma. Dyma'r ddadl fwyaf bywiog a diddorol hyd yn hyn."
Theo: "Roedd yn anodd i Mrs Williams i roi ateb pendant ynghylch a fyddai hi'n mynd i mewn i glymblaid neu unrhyw fath o gytundeb. O ganlyniad, bydd yn anodd i bobl ar draws Cymru i ymddiried ynddi neu y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ar unrhyw fath o bolisi - economaidd neu addysgol."
Greg: "Mi ddywedodd hi nad oedd y blaid yn medru symud ymlaen oddi wrth gamgymeriadau'r glymblaid ym Mhrydain ac mi oeddwn i'n teimlo nad oedd y gynulleidfa yn gallu anghofio chwaith. Ond mi oedd Kirsty Williams yn ymddangos fel ei bod hi wir yn edifar am benderfyniadau ei chydweithwyr yn San Steffan."
Dadl nos Iau - Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru
Greg: "Dw i'n meddwl bod yr ymarfer gafodd Leanne Wood gydag arweinwyr Prydain yn y dadleuon llynedd wedi talu ffordd oherwydd mi wnaeth hi yn fy marn i roi'r perfformiad efallai mwyaf hyderus a sicr o'r holl arweinwyr hyd yn hyn. Er hyn mi oedd hi'n wleidydd perffaith trwy beidio rhoi'r atebion llawn i'r holl gwestiynau (yn debyg i Kirsty Williams).
Theo: "Neithiwr, mi gafodd hi drafferth gyda'r cwestiynau. Roedd y cwestiynau difa moch daear ac yn enwedig ei safbwynt ar ynni niwclear yng Nghymru yn galed i'w hateb.
Greg: "Mi wnaeth y pwnc annibyniaeth i Gymru godi ei ben, rhywbeth sydd ddim wedi ei drafod yr wythnos yma. Mi o'n i'n teimlo bod Leanne yn reit amddiffynnol yma ac mi fywiogodd y gynulleidfa."
Theo: "Roedd sôn am glymblaid yn rhan olaf y ddadl - gyda phosibilrwydd o glymblaid rhwng Plaid - Llafur yn glir iawn ar ôl neithiwr. Felly, mae gan Plaid Cymru ffordd bell i fynd cyn y gallant gael cefnogaeth y cyhoedd, a chyflwyno, beth maen nhw yn meddwl yw, "Y Newid sydd Angen" ar y wlad."
Dadl nos Wener- Carwyn Jones, Arweinydd Llafur Cymru
Theo: "Noson anodd i Carwyn Jones yn Llangollen. Bu heclo'n trwbli arweinydd Llafur Cymru drwy gydol y ddadl. Roedd Carwyn dan bwysau ym mhob adran: iechyd, yr economi, addysg a'i blaid ei hun."
Greg: "Roeddwn yn teimlo bod Carwyn yn fwy personol yn ei berfformiad na phawb arall - yn sôn am ei blant yn aml."
Theo: "Mae'n anodd amgyffred Llafur Cymru ddim yn rhyw fath o lywodraeth ym mis Mai. Mae hanes, demograffeg ac agweddau cymdeithasol Cymru - yn enwedig yn y De Ddwyrain - yn ffafrio eu siawns o etholiad."
Greg: "Trwy'r ddadl, doedd Carwyn ddim yn gallu dianc o gysgod Jeremy Corbyn. Bydd hi'n ddiddorol gweld pa ddylanwad fydd arweinwyr San Steffan yn ei gael ar etholiad y Cynulliad - dylai'r etholiad fod am faterion Cymru, a dim arall."