Cofio cartre'r theatr Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Ar nos Sadwrn 30 Ebrill bydd noson arbennig yng nghanolfan Pontio ym Mangor i ddathlu pwysigrwydd Theatr Gwynedd. Fe gaeodd cartref y ddrama Gymraeg ei drysau yn 2008 cyn iddi gael ei dymchwel er mwyn codi'r ganolfan gelfyddydau newydd.
Roedd Dyfan Roberts ymhlith yr actorion cyntaf i droedio ar lwyfan Theatr Gwynedd ym mis Rhagfyr 1974. Bu'n hel atgofion am yr adeilad gyda Cymru Fyw:
Creu traddodiad newydd
"Y cynhyrchiad proffesiynol cynta' yn Theatr Gwynedd oedd pantomeim 'Pwyll Gwyllt' a fi oedd y prif gymeriad sef 'Gwenyn', meddai Dyfan Roberts.
"Roedd traddodiad y pantomeim yn gryf iawn yn y cyfnod hynny, ac oedd 'na griw mawr ohonan ni - fi, Valmai Jones, Iestyn Garlick oedd y tywysog a Heather Jones oedd y dywysoges. Roedd y pantomeim yn eitha spectacular am y cyfnod a dweud y gwir."
Dyma oedd perfformiad cyntaf Dyfan Roberts ar lwyfan y theatr, ond bu'n aelod o Gwmni Theatr Cymru am bedair blynedd cyn hynny, mewn cyfnod o newid mawr ym myd y ddrama yng Nghymru.
"Roedd Cwmni Theatr Cymru yn cael ei arwain gan Wilbert Lloyd Roberts, a fo oedd un o'r prif symbylwyr i gael Theatr ym Mangor. Fe ymunais i yn 1970 ac fe fuon ni am bedair blynedd ar y lôn yn creu perfformiadau mewn neuaddau pentre a neuaddau ysgol ac yn dyheu am gael cartre' proffesiynol i arddangos gwaith y cwmni.
"Erbyn canol y 1970au oedd' na nifer o theatrau wedi eu hadeiladu yng Nghymru, llawer ohonyn nhw ynghlwm efo'r prifysgolion. Roedd Theatr y Werin yn Aberystwyth, a Theatr y Sherman yng Nghaerdydd. Theatr Clwyd a Theatr Harlech. Traddodiad y neuadd bentre oedd y traddodiad theatr cyn hynny, cyn i Wilbert Lloyd Roberts ddod ymlaen a chreu cwmni drama proffesiynol Cymraeg."
"O'n i'n byw ym Mangor, ac yn gweld y Theatr yn cael ei adeiladu. O'n i'n breuddwydio am y dydd pan fyddai'n agor a meddwl "falle fanna fydda i rhyw ddiwrnod" ac mi agorodd hi yn Rhagfyr 1974."
Yn ystod y 37 mlynedd y bu'r Theatr yn agored, roedd yn gyrchfan i bobl o bob rhan o'r gogledd orllewin, o ardal Pwllheli, Sir Fôn a Sir Feirionydd ac roedd tripiau ysgolion Sul yr ardal i weld y pantomeim Nadolig blynyddol yn llenwi'r lle yn y dyddiau cynnar.
"Teimlad o golled"
"Roedden nhw'n ddyddiau cyffrous iawn, ac nid jyst i'r gynulleidfa Gymraeg. Roedd cynulleidfa di-Gymraeg o Fangor yn dod yno hefyd, plant o ysgolion dawnsio lleol, pantomeimiau gan y WI a phethe felly. Roeddach chi'n teimlo eich bod chi'n mynd adra pan oeddach chi'n mynd i Theatr Gwynedd, roedd ganddi gysylltiad clòs gyda'r gymuned ac yn croesawu pawb yno, gan gynnwys myfyrwyr.
"Redd 'na deimlad o golled ofnadwy yn yr ardal pan oedd y Theatr yn cau, dan ni'n gobeithio y bydd y traddodiad yma [y cysylltiad gyda'r gymuned] yn atgyfodi yn y lle newydd. Mae adeilad Pontio yn dipyn crandiach na Theatr Gwynedd!"
Gwaddol
Mi fydd Dyfan Roberts ymhlith yr artistiaid sy'n cymryd rhan yng nghyngerdd 'Gwaddol' yng nghanolfan Pontio nos Sadwrn, gan ddarllen cerdd a gyfansoddodd yn coffàu arwyddocád Theatr Gwynedd, gan hel atgofion am yr adeilad lle bu'n perfformio degau o gynyrchiadau dros y degawdau. Mae ffilm fer o atgofion pobl oedd wedi ymwneud â Theatr Gwynedd dros y blynyddoedd i'w gweld mewn arddangosfa yng nghyntedd Pontio.
Y darlledwr Hywel Gwynfryn fydd yn arwain y noson gyda chyfraniadau gan John Pierce Jones, Cefin Roberts, Linda Brown, John Ogwen, Maureen Rhys ac artistiaid eraill.