Christine Hamilton yn beirniadu sylwadau Nathan Gill
- Cyhoeddwyd

Mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill wedi cael ei gyhuddo o ymddwyn fel "cadfridog o'r drydedd radd" ar ôl awgrymu na fyddai e wedi dewis dau o aelodau blaenllaw yn ymgeiswyr yn etholiad y Cynulliad.
Mae dewis y cyn geidwadwyr Mark Reckless a Neil Hamilton wedi arwain at gyhuddiadau eu bod wedi eu gorfodi ar frig rhestrau rhanbarthol gan y blaid yn ganolog.
Ar raglen 'Ask The Leader' BBC Cymru nos Fawrth, dywedodd Mr Gill: "Fyddwn i wedi caniatáu i bobl gael eu dewis o flaen aelodau Cymreig sy'n gweithio'n galed? Mwy na thebyg ddim... ond nid fy mhenderfyniad i oedd e."
Ond cafodd sylwadau Mr Gill eu beirniadu gan wraig Mr Hamilton, Christine.

Neil a Christine Hamilton
Mewn neges ar twitter, dywedodd: "Only a 3rd rate General would diss his crack troops on the eve of battle".
Mae arolygon barn yn awgrymu fod UKIP yn debygol o ennill eu seddi cyntaf yn y Cynulliad Cenedlaethol yn yr etholiad ar 5 Mai.
Ond mae cyfres o ddadleuon mewnol ynghylch dewis ymgeiswyr wedi taro'r blaid.
Mr Hamilton sydd ar frig rhestr ymgeiswyr UKIP yn rhanbarth y Canolbarth a'r Gorllewin, tra bo Mr Reckless ar frig y rhestr yn y De Ddwyrain. Mr Gill sydd ar frig rhestr y Gogledd.