Cynnal Eisteddfod 2018 'heb faes traddodiadol'?

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib na fydd yna faes traddodiadol ar gyfer yr Eisteddfod yng Nghaerdydd

Gallai'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 gael ei chynnal ym Mae Caerdydd heb y Maes traddodiadol.

Os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen mae BBC Cymru yn deall na fydd y Brifwyl yn cael ffens o'i amgylch nag yn codi tâl am fynediad.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio defnyddio adeiladau fel Canolfan Mileniwm Cymru, yn hytrach na phafiliynau dros dro a phebyll mawr, i gynnal y cystadlaethau a digwyddiadau.

Bob haf mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn teithio i leoliad gwahanol yng Nghymru, gydag adeiladau dros dro yn gartref i'r digwyddiadau, siopau a theatrau ar gyfer yr ŵyl.

Mae Bae Caerdydd yn un o nifer fach o safleoedd i gyrraedd y rhestr fer, gyda phenderfyniad terfynol i ddod dros y penwythnos.

Cyfarfod i drafod

Hefyd dan ystyriaeth mae cynnal Maes traddodiadol ar gaeau chwarae ym Mhontcanna, sef lleoliad ymweliad diwethaf y Brifwyl i'r brifddinas yn 2008.

Bydd Cyngor yr Eisteddfod yn cyfarfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn i benderfynu ar leoliad terfynol y digwyddiad yn 2018.

Disgrifiad,

Dywedodd y cyn Archdderwydd T James Jones fod cyfle i wneud rhywbeth gwahanol gyda'r Maes

Mewn cyfweliad y llynedd, datgelodd prif weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts ei fod yn gobeithio cynnal y Brifwyl yng Nghaerdydd heb faes traddodiadol.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio y byddai diffyg ffens yn 2018 yn denu fwy o ymwelwyr, gan gynnwys rhai fydd yn profi'r Eisteddfod am y tro cyntaf.

Ond bydd angen pwyso a mesur unrhyw arbedion sy'n deillio o'r penderfyniad i ddefnyddio adeiladau parhaol gyda'r colledion a ddaw drwy beidio codi tâl am fynediad.

'Falch'

Disgrifiad o’r llun,

Seremoni cyhoeddi Eisteddfod Caerdydd 2008

Dywedodd y cyn Archdderwydd T James Jones fod Caerdydd yn cynnig y cyfle i wneud rhywbeth gwahanol o safbwynt y Maes.

"Dwi'n falch bod yr Eisteddfod yn ystyried dod a'r Steddfod i Gaerdydd a'i hagor i Gaerdydd ac i bobl nad sy'n arfer a'r 'Steddfod.

"Wi'n gweld y gallai bod yn digwydd er enghraifft, mae'r castell ar agor i ni, ac mae'r strydoedd yn rhydd o draffig i ni nawr bob cam i'r hen lyfrgell lle mae'r ganolfan Gymraeg newydd, a gyferbyn a'r llyfrgell mae Neuadd Dewi Sant gallai hwn fod yn Faes i'r Eisteddfod."