Cefnogi Eisteddfod heb faes ym Mae Caerdydd yn 2018

  • Cyhoeddwyd
Canolfan y Mileniwm
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr Eisteddfod yn cynnal trafodaethau gyda Chanolfan y Mileniwm yn y misoedd nesaf

Mae Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cefnogi cynlluniau i gynnal yr ŵyl heb y Maes traddodiadol yn 2018.

Roedd y cyngor yn cyfarfod yn Aberystwyth i drafod argymhelliad y Bwrdd Rheoli i fynd â'r Brifwyl i Fae Caerdydd.

Dywedodd llefarydd y bydd swyddogion yr Eisteddfod yn trafod y manylion gyda chyngor y brifddinas a phartneriaid eraill, gan gynnwys Canolfan y Mileniwm, dros y misoedd nesaf.

Dywedwyd na fyddai tâl mynediad ac na fyddai unrhyw fath o ffens o amgylch yr ŵyl.

Mae cyfnod y pafiliwn pinc traddodiadol eisoes wedi dod i ben.

Arbrawf blwyddyn

Ychwanegwyd mai arbrawf blwyddyn fyddai gosod maes o amgylch adeiladau parhaol.

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts y byddai arbedion i'w cael drwy ddefnyddio adeiladau parhaol, ac y bydd hynny'n ddigon i ddigolledu tâl mynediad.

Disgrifiad,

Elfed Roberts sy'n egluro sut y bydd y Brifwyl yn cael ei ariannu yn 2018

Roedd Maes traddodiadol ar gaeau chwarae Pontcanna - sef lleoliad ymweliad diwethaf yr Eisteddfod i'r brifddinas yn 2008, hefyd dan ystyriaeth.

Y bwriad yw cael y maes carafannau ger y safle hwnnw.

Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd cael gwared ar y ffens o amgylch safle'r yn ŵyl yn denu mwy o ymwelwyr, gan gynnwys rhai na fyddai'n mynychu fel arfer.

Mewn datganiad, dywedodd y Brifwyl: "Dyma ddechrau cyfnod o ystyried lleoliad gwahanol weithgareddau'r Eisteddfod, gan arwain at gynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd yn yr haf."