Maniffesto i roi 'sbardun' i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llafur Cymru wedi lansio eu maniffesto ar gyfer etholiad y Cynulliad ddydd Mawrth, gyda "chynllun ar gyfer llewyrch" fydd, meddai'r blaid, yn rhoi sbardun i Gymru.
Mae'r cynllun yn cynnwys "banc datblygu" i gefnogi busnesau bychain ac addewid i ddod a band llydan cyflym i bawb.
Dywedodd arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones, mai ei fwriad oedd creu mwy o swyddi a swyddi gwell.
Daw'r ffocws ar yr economi ar ôl iddo ysgrifennu ym mhapur y Sunday Telegraph fod yna fwy y gallai ei wneud "er mwyn rhoi trefn ar y modd mae'r llywodraeth yn helpu busnesau.
Dywedodd Mr Jones: "Mae hwn yn gynllun i wneud i Gymru weithio drwy helpu pobl gael gwaith a chreu cyfleoedd gwaith.
"Bydd Llafur Cymru yn gefn i fenywod sy'n dychwelyd i waith ar ôl cael plant; yno ar gyfer pobl ifanc sy'n cael swydd am y tro cyntaf ac yno i fusnesau bach sef asgwrn cefn ein heconomi.
"Mae'r nod yn glir - mwy o swyddi a swyddi gwell. Gyda'n gilydd fe allwn wneud Cymru yn lle mwy llewyrchus fel ein bod i gyd yn gallu rhannu'r buddion," meddai.
"Nawr yw'r amser i adeiladau ar y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiadau mewnol a lefel diweithdra sy'n gostwng. Byddwn yn achub ar y cyfle yma i adeiladau ar ein llwyddiannau o'r pum mlynedd diwethaf a datblygu Cymru fydd yn gryfach, gyda chysylltiadau gwell ac yn fwy unedig."
'Cynllun ar gyfer llewyrch'
Creu 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed
Darparu 30 awr yr wythnos o ofal plant di-dâl, 48 wythnos y flwyddyn, ar gyfer rhieni plant 3 a 4 oed sy'n gweithio
Band llydan cyflym i bob eiddo yng Nghymru
Torri trethi ar gyfer busnesau bychain
Sefydlu "banc datblygu"