Mwy o gorau cerdd dant yn 'codi calon' ar drothwy'r ŵyl flynyddol

- Cyhoeddwyd
Bydd mwy yn cystadlu mewn côr cerdd dant yn yr ŵyl eleni na fu ers dros ddegawd, medd y trefnydd ar ddiwrnod cau'r cofrestru ar gyfer Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a'r Fro.
Mae chwe chôr wedi cofrestru ac mae'r nifer uwch yn galonogol, medd John Eifion.
"Dau neu dri, pedwar ar y mwyaf o gorau cerdd dant sy'n cystadlu ar lefel genedlaethol.
"Mae cael chwe chôr yn fy ngwneud i mor hyderus am ddyfodol cerdd dant," meddai.
"Maen anodd rhoi bys yn uniongyrchol ar be' ydy o. Mae 'na griw o bobl ifanc da yn ymddiddori yn y grefft ar hyn o bryd. Mae hynny'n helpu."
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
Fe gafodd yr Ŵyl Cerdd Dant gyntaf, yn Y Felinheli yn 1947, ei disgrifio fel dechrau cyfnod o adfywiad gwirioneddol i'r traddodiad.
Bron i 80 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae yna obaith ei bod hi'n ddechrau cyfnod o adfywiad arall.
"Dwi yn teimlo brwdfrydedd ymysg ein pobl ifanc ni, diolch i bobl ddaeth o'u blaenau nhw falle, ac mae hynny yn dwyn ffrwyth rŵan ac mae'n galonogol iawn bod 'na do newydd yn dod sydd yn barod i gyfleu ein diwylliannau ni", ychwanegodd John Eifion.
"Mae 'na elfen gymdeithasol ynghlwm gyda'r traddodiad hefyd. Mae hynny yn bwysig."
Beth yw Cerdd Dant?
Mae'r grefft o ganu penillion i gyfeiliant telyn yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif ac yn cael ei hystyried yn rhan bwysig o'r diwylliant Cymreig.
Doedd dim deuawdau, triawdau, partïon na chorau pan ddechreuodd y traddodiad - dim ond canu unigol.
Meddai John Eifion: "Byddai'r corau wedi bod yn wrthun i rai o'r hynafion flynyddoedd yn ôl.
"Ond i gael cymaint o gorau yn ymgymryd â cherdd dant, mae'n dangos bod pobl yn sylweddoli ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd y grefft.
"Mae'r ŵyl yn teithio pob blwyddyn ac mae hynny yn bwysig.
"Nid yn unig oherwydd bod pob ardal yn gallu perchnogi'r ŵyl ond oherwydd bod côr newydd yn cael ei sefydlu bob blwyddyn erbyn hyn."
Bu'n rhaid i Ŵyl Cerdd Dant Aberystwyth a'r Fro 2025 newid lleoliad ar fyr rybudd yn dilyn "cyngor iechyd a diogelwch".
Bydd yn cael ei chynnal yn Neuadd Chwaraeon Plascrug ar 8 Tachwedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.