Panel yn gwrthod apêl trwyddedau pêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae corff apêl trwyddedau Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu peidio â chaniatáu i ddau glwb pêl-droed chwarae yn Uwch-gynghrair Cymru y tymor nesaf.
Mewn gwrandawiad yng Nghaerdydd ddydd Iau, roedd clybiau Caernarfon, Port Talbot, a Phrifysgol Met. Caerdydd yn apelio yn erbyn penderfyniad gwreiddiol y corff i beidio rhoi trwydded ddomestig i chwarae yn y gynghrair yn 2016/17.
Fe gafodd apêl Prifysgol Met Caerdydd ei ganiatáu, ac felly byddant yn gymwys i gael dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.
Fe wrthododd y panel apeliadau clybiau Caernarfon a Phort Talbot, ac felly ni fydd y clybiau yn gymwys i chwarae yn yr uwchgyngrair y tymor nesaf.
Mae Caernarfon ar hyn o bryd ar frig Cynghrair Undebol Huws Gray, ond gan na fyddan nhw'n cael dyrchafiad yn dilyn penderfyniad y panel
Mae'r cyfan yn golygu y bydd Y Rhyl yn aros yn Uwchgynghrair Cymru onibai am ganlyniadau rhyfeddol yn rownd olaf gemau'r Uwchgynghrair ddydd Sadwrn.
Mae penderfyniad y panel apêl yn golygu mai dim ond dau dîm fydd yn disgyn, sef Port Talbot a'r tîm sydd ar y gwaelod, sef Hwlffordd.
O ran pwy fydd yn cymryd eu lle, mae'r Barri ar frig Cynghrair Cymru ac fe allai Derwyddon Cefn gael dyrchafiad os fyddan nhw'n llwyddo i orffen yn ail i Gaernarfon yng Nghynghrair Undebol Huws Gray.
Os na fydd y Derwyddon yn gorffen yn ail, mae'n bosib y bydd Hwlffordd yn cael aros yn y brif adran, neu fe allai Prifysgol Met Caerdydd gael eu dyrchafu, ond mae'r sefyllfa yn aneglur nes y bydd yr holl gemau wedi'u chwarae.