Diffinio cenedl y Cymry

  • Cyhoeddwyd
dr huw williams

Mae'n un o ddisgyblaethau hynaf y byd, ond faint ohonon ni yng Nghymru sy'n ymddiddori mewn athroniaeth?

Bydd cynhadledd i ddathlu cyfraniad yr athronydd Cymraeg J. R. Jones, dolen allanol yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe, ar 21-22 Ebrill.

Mae'r Dr Huw Williams yn ddarlithydd yn y pwnc i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n cynnal y digwyddiad. Mae'n dweud wrth Cymru Fyw fod yna le pwysig i athroniaeth wrth i ni ddehongli'n Cymreictod mewn byd sy'n newid yn gyflym:

Drwgdybiaeth

Roedd un o athronwyr mwyaf Cymru, y diweddar Dewi Z Phillips o Brifysgol Abertawe, yn credu'n gryf bod gan y Cymry ddrwgdybiaeth o athroniaeth. Roedd ganddo drosiad trawiadol i ddisgrifio'r modd y gwelai'r sefyllfa, gan hawlio nad ydym yn barod i ganiatáu Socrates 'i gerdded yn ein plith'.

Mae trosolwg o gyflwr y pwnc yng Nghymru yn sicr yn awgrymu nad ydy athroniaeth ymhlith ein ffefrynnau.

Ychydig o ysgolion sy'n ei dysgu, a phan fydd hynny yn digwydd mae angen ymgeisio trwy un o fyrddau arholi Lloegr. Mae adrannau athroniaeth ein prifysgolion wedi'u cyfyngu i unedau cymharol fychan yng Nghaerdydd a Llambed, tra bod Bangor newydd ailagor Ysgol Athroniaeth a Chrefydd.

Mae yna resymau hanesyddol amlwg - gydag athroniaeth yn faes oedd yn gysylltiedig i raddau helaeth gyda phrifysgolion, ddaeth y maes ddim yn gyfarwydd yma tan y 19fed ganrif gyda sefydlu rhai o'n sefydliadau addysg uwch.

Rhaid cydnabod yn ogystal bod egni deallusol y Cymry wedi'i gyfeirio'n hanesyddol at Ddiwinyddiaeth, a ninnau yn wlad sydd wedi bod dan ddylanwad helaeth Cristnogaeth.

Wedi dweud hyn oll, a minnau'n addysgu athroniaeth gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rwy'n amau weithiau onid yw Dewi Z Phillips yn rhy negyddol.

Seiliau ein hymwybyddiaeth

Dwi'n cydymdeimlo gyda'r sylw nad ydym wedi trwytho yn y pwnc a bod meysydd eraill megis llenyddiaeth yn rhan ganolog o'n diwylliant, ond ni ddylem gwympo i'r fagl o gymryd yn ganiataol nad oes diddordeb yno.

Rhan o'r her yw sicrhau bod y pwnc yn un sy'n berthnasol. I rai athronwyr mae'r pwnc yn ymwneud yn ei hanfod â chwestiynau canolog ynglŷn â natur gwybodaeth, perthynas iaith gyda'r byd, gweithredoedd y meddwl - seiliau ein hymwybyddiaeth o'r byd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn gweld y diweddar Dr Meredydd Evans - neu Merêd - fel un o athronwyr mawr Cymru

Dyma bynciau canolog a phwysig ond sydd o'u hanfod yn lled haniaethol ac yn astrus i nifer, ac yn wir, lleiafrif fydd wastad â diddordeb yn rhai o'r elfennau mwy creiddiol yma.

Ond mae modd arall o ddeall athroniaeth, sef fel maes ymarferol sydd yn ymwneud â chwestiynu, beirniadu a rhoi cyfrif o'r syniadau sylfaenol yna sydd ynghlwm â'n bywydau mewn amryw ffyrdd.

Beth yw 'cenedl'?

Yn yr ystyr yma mae gennym athroniaeth chwaraeon, athroniaeth wleidyddol, athroniaeth crefydd, ac athroniaeth yn ymwneud â sawl agwedd ar ein bywydau beunyddiol y mae modd ymdrin â nhw.

Yn y cyswllt yma mae gennym ni'r Cymry sawl athronydd arall sylweddol sydd wedi trafod agweddau cymdeithasol ein bywyd cyfunol.

Rhoddodd J. R. Jones ei bwysau deallusol sylweddol y tu ôl i'r frwydr dros yr iaith. Roedd ei destun mwyaf adnabyddus, 'Prydeindod', dolen allanol, yn dadansoddi a beirniadu'r cysyniad yma fel ideoleg oedd â sgil effeithiau trychinebus i'r Cymry a'i hiaith.

Iddo ef, yr hyn sydd yn nodweddu 'pobl' fel y Cymry, ac sy'n gyfrifol am ei bodolaeth fel grŵp, yw'r cysylltiad hanesyddol rhwng ei hiaith a'i thir. Rhoddai'r enw 'cenedl' i bobl sydd wedi llwyddo i greu gwladwriaeth, sydd yn ei thro yn sicrhau cwlwm arall fedr amddiffyn ei hiaith a'i diwylliant.

Y tu hwnt i'r brifysgol mae modd awgrymu ein bod ni i gyd yn athronwyr ar ryw lefel, am ein bod ni i gyd â rhyw set o syniadau am y materion yna sy'n bwysig i'n bywydau ni - hyd yn oed os nad ydym yn eu dadansoddi.

Myfyrwyr yn awyddus

Mae gofyn beth yw ein gwerthoedd ni neu ein hagwedd at fywyd yn eu hanfod yn gwestiynau athronyddol. Yn sicr ymysg y myfyrwyr rwy'n eu dysgu, mae yna awydd i ymwneud a derbyn yr her.

Mae athroniaeth yn gofyn am feddwl beirniadol, creadigol, a meithrin sgiliau ymresymu, sgiliau sydd yn berthnasol i beth bynnag mae rhywun yn dewis ei wneud mewn bywyd, a galluoedd sydd â'r potensial i'n helpu ni i gyfeirio'n hunain mewn byd sydd yn gynyddol gymhleth.

Yn achos J. R. Jones, fe ddechreuodd ei yrfa yn gofyn y cwestiynau sylfaenol yna am ein hymwybyddiaeth ni o'r byd ac eraill.

Erbyn ei lawn dwf fel athronydd, roedd wedi defnyddio'r galluoedd a'r sgiliau yna i ymateb i'w bryderon ei hun a'i gymdeithas, a thrwy hynny ysgrifennu rhai o'r testunau grymusaf sydd gennym am Gymru, ei hiaith, a'i diwylliant.

Efallai bod hi'n amser i ni fel pobl 'gerdded gyda Socrates'.

Disgrifiad o’r llun,

Socrates, yr athronydd Groegaidd