Taith 240 milltir Pero yn ôl adref i Geredigion
- Cyhoeddwyd
Mae teulu o Benrhyn-coch ger Aberystwyth mewn penbleth ar ôl i gi defaid, gafodd ei eni a'i fagu ar eu fferm, deithio 240 o filltiroedd o'i gartre newydd ger y ffin â'r Alban yn ôl atyn nhw yng Ngheredigion.
Fe ddihangodd Pero o'i fferm newydd ger Cockermouth yn Cumbria ddechrau'r mis. Doedd dim sôn amdano ar ôl hynny.
Yna, wythnos diwetha, fe ymddangosodd y ci, sy'n bedair oed, ar stepyn drws fferm Alan a Shan James, a does ganddyn nhw ddim syniad sut mae 'di cyrraedd yno.
'Perffaith i'r swydd'
"O'dd y person yn Cockermouth yn chwilio am gi oedd yn gallu rowndio defaid a dilyn beic, ac o'n ni'n meddwl o'dd Pero'n berffaith ar gyfer y swydd 'na" meddai Shan.
"Wedon ni wrthyn nhw i fynd ag e i weld a fydde'n fodlon gweithio ar y fferm newydd. A dyna ni, fe aeth ddechre mis Mawrth".
Ond mae'n ymddangos nad oedd Pero yn fodlon yn ei gartref newydd.
Diflannu
Ar 8 Ebrill, fe aeth allan gyda'r ffermwr newydd i hel defaid, cyn diflannu ar draws y caeau. Chafodd Pero ddim ei weld ar ôl hynny.
"Ro'n ni wedi cael gwybod bod Pero wedi diflannu, a bod dim golwg ohono," meddai Shan, sydd yn byw gyda'i phump o blant ar y fferm ddefaid ym Mhenrhyn-coch.
"Ond yna nos Fercher ddiwetha, 20 Ebrill, dyma Alan yn mynd allan ar ôl swper, a phwy oedd ar ben drws ond Pero, y ci."
'Ecseited bost!'
"Ro'dd hi'n bach o sioc, ac o'dd y ci yn mynd yn ddwl o weld Alan. O'dd e'n ecseited bost, a fyn'ny oedd e'n hapus reit.
"Glywon ni neb yn galw, ac er bod microchip 'da fe, does na neb wedi cysylltu 'da ni i ddweud eu bod nhw wedi dod o hyd iddo ac yn cynnig dod ag e nôl.
"Felly does ganddon ni ddim syniad o gwbl sut mae Pero wedi llwyddo i ddod gatre".
Nawr mae'r teulu eisiau holi a ydy pobl wedi cael ci defaid dieithr yn galw heibio yn chwilio am fwyd rhyw ben dros y pythefnos diwethaf.
"Pan dda'th e nôl, do'dd e ddim yn llwglyd nac yn wan, felly o'dd e wedi bod yn cael bwyd yn rhwle. Mae'n rhaid ei fod wedi stopio mewn llefydd ar y ffordd."
I Pero, mae 'na newyddion da.
Fydd y teulu ddim yn ei roi i neb arall, ac mae'n cael llawer o sylw gan blant ieuenga'r teulu, Annie May a Tomos:
"Ma Pero'n hapus iawn ei fod e nôl adre! Geith e aros 'ma nawr".