Canslo prosiect i godi pwerdy yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall na fydd cynllun i godi pwerdy newydd yn South Hook yn mynd yn ei flaen wedi'r cwbl.
Daw hynny ar ôl penderfyniad y llynedd gan gwmni South Hook CHP i ohirio'r cynllun i adeiladu gorsaf bŵer ar safle storio nwy yn Aberdaugleddau.
Rhoddodd llywodraeth y DU eu caniatâd i adeiladu'r orsaf 500MW yn ym mis Hydref 2014.
Fe fyddai'r cynllun wedi creu cannoedd o swyddi adeiladu dros dro, yn ogystal â 30 o swyddi parhaol.
Fe wnaeth Cyngor Tre Aberdaugleddau dderbyn llythyr gan Fwrdd Cyfarwyddwr South Hook CHP ar 5 Ebrill yn dweud fod y cynllun wedi ei ganslo.
"Roedd y penderfyniad i beidio bwrw mlaen gyda phrosiect South Hook CHP yn un anodd i gyfranddalwyr ac mae'n adlewyrchu amgylchiadau anodd y farchnad heddiw a bod yn rhaid ystyried pob buddsoddiad sylweddol yn hynod ofalus", meddai'r llythyr.
Heddiw mewn datganiad i'r BBC dywedodd llefarydd ar ran South Hook CHP: "Gallaf gadarnhau yn gynharach y mis hwn fod rhanddeiliaid wedi cael gwybod fod prosiect South Hook CHP wedi ei ganslo. Ond ers hynny mae yna ddatblygiadau wedi bod ac ni fyddai'n addas i wneud unrhyw sylw pellach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2015