Oedi yng nghynlluniau pwerdŷ nwy yn South Hook

  • Cyhoeddwyd
LNG Aberdaugleddau
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r orsaf bŵer newydd gael ei hadeiladu ger terfynell yr LNG yn South Hook, Aberdaugleddau

Mae'r cynlluniau i adeiladu gorsaf bŵer ar safle storio nwy yn Aberdaugleddau wedi cael eu rhoi o'r neilltu gan berchnogion.

Rhoddodd y llywodraeth y DU eu caniatâd i adeiladu'r orsaf 500MW yn South Hook ym mis Hydref.

Ond dywedodd y perchnogion ddydd Llun fod y cyhoeddiad yn cael ei ohirio, o ganlyniad i'r ffaith fod prisiau yn y farchnad ynni wedi gostwng.

Pe bai'r orsaf wedi cael ei datblygu, yna byddai cannoedd o swyddi adeiladu dros dro wedi eu creu, yn ogystal â 30 o swyddi parhaol wedi'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jamie Adams: "Rwy'n siomedig gan y byddai'r buddsoddiad wedi darparu cyfleoedd sylweddol yn lleol ar gyfer unigolion a busnesau yn sgil cau purfa Murco.

"Rwy'n parhau i fod yn obeithiol y bydd y prosiect yn cael ei wireddu yn y dyfodol."