Angen moderneiddio'r Orsedd?
- Cyhoeddwyd
Tri mis cyn dechrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fynwy a'r Cyffiniau eleni, mae enwau'r rhai fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd wedi eu cyhoeddi.
Mae ambell i wyneb cyfarwydd ymysg y detholion, fel yr actor Gwyn Elfyn - neu 'Denzil' Pobol y Cwm. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r sêr Hollywood Ioan Griffiths a Matthew Rhys, y canwr opera byd-enwog Bryn Terfel, a chyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams, i gyd wedi'u hurddo.
Ond does dim un person o leiafrif ethnig ar y rhestr eleni eto chwaith. Felly ydy hyn yn rywbeth sy'n poeni'r dyn sy'n arolygu gweithgareddau'r Orsedd, y cofiadur Penri Roberts?, dolen allanol
"Mae hi'n broses hollol ddemocrataidd - mae'n haelodau ni'n cael ethol neu eilio unrhyw un sydd wedi gwneud cyfraniad i'w meysydd," meddai. "I fod yn aelod o'r Orsedd, mae'n rhaid i chi allu siarad Cymraeg - dyna'r unig reol.
"Dwi'n meddwl fod yr aelodau wedi'u hollti'n weddol rhwng dynion a merched - a synnwn i ddim fase 'na fwy o ferched erbyn hyn.
"Dwi'm yn meddwl fod 'na lawer o bobl ethnig wedi'u hurddo, nac'dw. Ond os oes 'na ddiffyg, un peth sy'n sicr ydy bod 'na neb yn cael eu derbyn ar y sail eu bod nhw'n dod o gefndir ethnig neu fel arall.
"Mae' 'na tua 2,000 o aelodau ond does 'na'r un o'r swyddogion yn cael enwebu nag eilio ac mae'r broses yn un deg.
"Mae 'na drawsdoriad o bobl yn cael eu hurddo bob blwyddyn, gan gynnwys y rheiny sy'n gwneud cyfraniadau'n lleol."
'Casáu'r penwisgoedd'
Bydd yna benwisgoedd newydd eleni a fydd yn cael eu gweld am y tro cyntaf yn y seremoni gyhoeddi yng Nghaergybi ar 25 Mehefin.
"Roedd yn gás gan yr aelodau y penwisgoedd ac mi yda ni wedi ymateb," meddai Penri Roberts. "Mae'r aelodau wedi codi dros £7,000 i gael y rhai newydd."
Ond ydy'r Orsedd yn gwneud digon i symud gyda'r amser ac i apelio i'r to ifanc, yn enwedig o ystyried fod llai o bobl yn sefyll yr arholiad i ymaelodi â Gorsedd y Beirdd erbyn hyn?
"Dwi'n meddwl ein bod ni'n moderneiddio bob blwyddyn," ychwanegodd. "Ymysg y to ifanc - mae 'na fwy o ddiddordeb rwan nag erioed. Mae 12 yn cael eu hurddo trwy radd eleni, ac mae hynny'n digwydd bob blwyddyn bellach."
Felly oes gan Orsedd y Beirdd, un o draddodiadau hynaf y Gymraeg, le o hyd yn y Gymru fodern?
"Mae o'n hollol Gymreig - yr unig system o anrhydeddu ein cenedl sydd gennym ni. Mae hi'n bwysig iawn," meddai Penri Roberts.
"Dwi'n cofio [y cyn bêl-droediwr a'r sylwebydd] Malcolm Allen yn dweud wrtha'i ar y diwrnod gafodd o'i urddo: 'Dwi wedi chwarae i Newcastle, Norwich ac i Gymru, ond hwn ydy diwrnod gora' 'mywyd i.' Mae'n dal i olygu lot i bobl."
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn cael ei chynnal ar Ddolydd y Castell, Y Fenni, o 29 Gorffennaf-6 Awst.