Mwy o fyfyrwyr yn byw gartref wrth droi cefn ar y cymdeithasu

Llun o Angharad Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Rhys yn teithio i Brifysgol Bangor o'i chartref ym Mhentreuchaf, Pen Llŷn

  • Cyhoeddwyd

"Mae gen i lai o ddyledion i'w talu, a dwi'n teimlo 'mod i wedi cael yr un bywyd o fyw adra a fyswn i taswn i wedi byw yn y brifysgol," meddai Angharad Rhys.

Ar drothwy Wythnos y Glas a blwyddyn newydd i brifysgolion Cymru, mae nifer cynyddol nawr yn dewis byw adref yn hytrach na mewn neuaddau prifysgol.

Yn ôl myfyrwraig arall, mae rhai yn teithio o lefydd mor bell â chanolbarth Lloegr i Gymru ar gyfer darlithoedd, i osgoi costau llety.

Mae costau rhent a llety'n ffactor mawr meddai NUS Cymru, ond mae mwy o fyfyrwyr nawr yn blaenoriaethu eu hastudiaethau hefyd yn hytrach na nosweithiau allan a chymdeithasu.

Disgrifiad,

Dydy Angharad ddim yn teimlo ei bod wedi colli'r elfen gymdeithasol er ei bod wedi byw adref

Mae Angharad Rhys, 20, yn mynd i'w thrydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor – ond mae wedi dewis teithio'n ddyddiol o'i chartref ym Mhentreuchaf, Pen Llŷn.

Er ei bod hi'n 40 munud o daith bob ffordd, roedd hi dal yn "lot rhatach" nag aros mewn neuadd breswyl.

"Mi oeddan nhw tua £130 yr wythnos – i fi mae tanc petrol sydd dim ond yn costio £40 yn para 10 diwrnod, sydd yn lot o wahaniaeth mewn costau pan mae rhywun yn adio fyny am y flwyddyn," meddai.

Mae nifer ar ei chwrs yn gwneud yr un peth, meddai Angharad – sy'n teimlo nad ydi hi chwaith wedi bod ar ei cholled yn gymdeithasol.

"Mae gen i lot o ffrindiau sydd dal adra, ddim 'di mynd i brifysgol," meddai.

"Felly dwi dal yn cymdeithasu lot [efo nhw], dwi ddim yn teimlo 'mod i wedi colli allan ar y bywyd cymdeithasol."

Llun o Kirsty Holpin
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kirsty Holpin bod ganddi'r holl gefnogaeth sydd ei hangen arni

Fe wnaeth Kirsty Holpin benderfyniad tebyg, i deithio o dŷ ei mam-gu yn Fochriw, Sir Caerffili, i'w darlithoedd ar gampws Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest ger Pontypridd.

"Pan o'n i'n edrych ar gostau llety roedd e mor uchel," meddai Kirsty, sydd ar fin dechrau ei thrydedd flwyddyn yn astudio Seicoleg gyda Throseddeg.

"Naethon ni drafod, 'fyddai well gen ti aros gartre', neu gweithio socks ti bant i dalu rhent?'"

Roedd hynny wedi ei gadael hi'n fwy "ynysig" o ran cyfleoedd cymdeithasol, meddai, ond dydy hi ddim yn difaru ei phenderfyniad.

"Yn amlwg mae gwell bywyd cymdeithasol ar y campws, ond fi ddim yn yfed cymaint â hynny beth bynnag," meddai.

"Gartref mae gen i'r holl gefnogaeth fi angen, felly galla i wneud fy ngwaith coleg – os oeddwn i mewn neuadd breswyl, dwi ddim yn meddwl bydden i wedi cyflawni cymaint."

Teithio o ganolbarth Lloegr

Mae'r opsiwn o ddilyn darlithoedd ar-lein hefyd wedi ei helpu hi, a myfyrwyr eraill, meddai – a rhai'n manteisio i'r eithaf nad oes angen bod ar y campws bob dydd bellach.

"Mae un ferch nes i gwrdd llynedd sy'n teithio o ganolbarth Lloegr," meddai Kirsty.

"Roedd hi'n dweud fod e'n lot haws bwcio stafell westy am £90 y noson pan mae angen iddi ddod lawr, na gwario £600 ar rhent."

Yn ôl ffigyrau gan UCAS, mae nifer y myfyrwyr sydd wedi dangos bwriad i fyw adref wedi dyblu yn yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Ond, mae'r rheiny yng Nghymru dal yn dipyn yn llai tebygol o wneud hynny o'i gymharu ag ardaloedd eraill ym Mhrydain fel Yr Alban, Llundain a chanolbarth gorllewin Lloegr.

Fe wnaeth arolwg diweddar gan grŵp Save The Students ganfod bod 15% o fyfyrwyr bellach yn byw gyda rhiant neu warcheidwad – cynnydd o 12% yn 2020 – a bod amser cyfartalog eu taith i'r campws hefyd wedi codi o 21 i 26 munud.

"Dyw e ddim yn swnio fel newid anferth, ond os 'dych chi'n edrych yn nhermau nifer y myfyrwyr ar draws Prydain, mae e'n shifft eitha' sylweddol," meddai Tom Allingham ar ran y mudiad.

Deio Owen
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r newid yma ddim yn syndod meddai Deio Owen

Yng Nghymru, mae myfyrwyr bellach yn gwario £473 y mis ar rhent ar gyfartaledd – un o'r prif resymau pam bod cymaint nawr yn byw adref.

"Dydi o ddim yn syndod i ni weld y newid yma, oherwydd ffactorau fel argaeledd a chost llety a biliau," meddai Deio Owen, llywydd undeb NUS Cymru.

"A dydi'r straeon 'dan ni'n eu clywed o hyd am broblemau efo tai myfyrwyr ddim yn helpu'r naratif, dydi o ddim yn mynd i wneud i bobl fod isio symud i lety myfyrwyr."

'Ymddygiad myfyrwyr wedi newid'

Ond mae blaenoriaethau myfyrwyr hefyd wedi newid, meddai Deio Owen, gyda llai yn gweld bywyd campws fel rhan greiddiol o'r profiad prifysgol bellach.

"Mae'r syniad traddodiadol yna o bobl yn mynd i'r brifysgol i yfed ac yn y blaen, dydi hwnna ddim o reidrwydd yn wir bellach am ymddygiad lot o fyfyrwyr," meddai.

"Mae pobl yn aros i fewn, cymdeithasu heb alcohol, ac mae'r undebau myfyrwyr yn chwarae rhan bwysig yn hynny.

"Felly mae o'n bwysig bod unrhyw fyfyrwyr sy'n dewis peidio symud i gampws y brifysgol, neu rywle cyfagos, ddim yn methu allan ar y cyfleoedd yna."

Llun o Sophie Davies (chwith) ac Ayana Harris
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Davies (chwith) ac Aiyana Harris yn credu bod symud i ffwrdd o gartref yn bwysig iddyn nhw

Ond yn ffair y glas Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd yr wythnos hon, roedd eraill yn benderfynol mai symud o adref oedd y dewis gorau.

"Just i weld pobl, dysgu sut i fyw ar ben fy hun, a gwneud ffrindiau," meddai Sophie Davies, 20, o Gastell-nedd.

"Mae fe'n gymaint o hwyl, ac mae'n berffaith i fi."

Mae Aiyana Harris, 20 o Abertawe, yn teimlo bod byw ar y campws yn ei gwneud hi'n haws "cymdeithasu gyda phobl newydd".

"Bod mewn cymuned a gallu mynd mas gyda fy ffrindiau pryd bynnag fi isie, heb orfod mynd ar y trên bob tro," meddai.

"Ond mae'r gost yn wael achos does gyda fi ddim job, felly fi'n gorfod dibynnu ar student finance."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig