Cofio dylanwad y Cymro Steve Strange ar ddiwylliant yr 1980au

Steve Strange, yng nghanol y llun, tu allan i'r Blitz Club yn 1979
- Cyhoeddwyd
Mae arddangosfa newydd yn Llundain yn dathlu dylanwad y Cymro Steve Strange a chlwb enwog y Blitz ar ddiwylliant yr 1980au.
Roedd y clwb yn Covent Garden, lle gafodd Spandau Ballet eu gig cyntaf a lle'r oedd Boy George yn gweithio, yn flaengar yn y byd ffasiwn a cherddoriaeth y cyfnod.
Un o sylfaenwyr y clwb oedd y cerddor Steve Strange, oedd yn y grwp Visage - a fo oedd ar y drws yn penderfynu os oedd pobl yn edrych yn ddigon ffasiynol i fynd i mewn.
Nawr mae arddangosfa yn y Design Museum yn dathlu dylanwad y lleoliad ar gyfnod New Romantics yr 1980au a thu hwnt.
Un o selogion y clwb oedd Lowri Ann Richards, oedd yn ffrind i Steve Strange ac mewn grŵp pop yn Llundain ar y pryd, ac mae ganddi atgofion melys o'r cyfnod.

Fe ddechreuodd ffasiwn y New Romantics yn y Blitz fel mae'r lluniau yma o'r arddagnosfa yn ei ddangos. Ar y chwith mae'r Boy George ifanc
"Roedd pawb yno - Boy George oedd yn gweithio yn y cloakroom a fo oedd yn gyfrifol am gymryd y cotiau, ac roedd Steve ar y drws a doedda chi ddim yn cael mynediad os oedda chi mewn jeans neu T-shirt," meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Roedda chi'n gorfod edrych yn swanc ac yn smart i fynd i mewn. Wnaeth Steve Strange un noson nadu Mick Jagger ddod i mewn i'r clwb achos roedd o jest wedi troi fyny mewn jeans a T-shirt."

Steve Strange wrth y drws yn y Blitz Club ar 13 Chwefror1980
"Reit aml roedda ni'n gwisgo petha lot fwy lliwgar ac yn smart a'r traddodiad ella yn mynd yn ôl i'r 40au a ffilms hen ffasiwn du a gwyn.
"Roedd pobl yn dressio fyny fel 'na yn hytrach na jeans neu hyd noed ffasiwn fel pync. Roedd pync erbyn hyn yn dechrau newid yn Llundain."

Lowri Ann Richards gyda Rusty Egan yn y Blitz Club yn 1980
Fe ddaeth Steve Strange, o Drecelyn, Sir Gaerffili, yn adnabyddus gyntaf gyda'i fand Visage, gyda'i gyd-aelodau Midge Ure a Rusty Egan. Fe gyrhaeddodd eu sengl Fade to Grey y 10 uchaf yn y siartiau yn 1981.

Un o'r lluniau yn yr arddangosfa ydi'r llun cynnar yma o Spandau Ballet, yn eu dillad New Romantics, mewn sgwat yn Warren Street, yn 1980
Yn ôl Lowri Ann Richards, oedd yn agoriad swyddogol arddangosfa Blitz: the club that shaped the 80s ar 17 Medi, roedd gweld y gwesteion eraill yno oedd hefyd yn arfer mynd i'r clwb yn tanlinellu pwysigrwydd diwylliannol y lle.
Meddai: "Roedd o 'chydig fel old school reunion mae'n rhaid fi ddweud - weithiau doedda chi ddim cwiet yn sicr pwy oedd rhywun ac wedyn roedda chi'n cofio a gweld y wynebau.
"Roedd ffrindiau (Steve Strange) fel Boy George, Spandau Ballet, Glen Mattlock o'r Sex Pistols, Sir Bob Geldolf, Rusty Egan (yno) - roedd rwbath yn y dŵr mashwr yn dechrau'r 80au achos roedd pobl oedd yna neithiwr i gyd mor fywiog."

Rhai o selogion y Blitz, tua'r flwyddyn 1980, gan gynnwys (ar y dde) y cynllunydd ffasiwn Stephen Linard
Ychwanegodd bod yr arddangosfa hefyd yn dangos faint o ddylanwad gafodd y lleoliad a chyfnod y New Romantics ar fywydau'r rhai aeth ymlaen i weithio yn y byd creadigol.
Meddai: "Wnaeth (y clwb) rili sbarduno diwylliant yn rhyngwladol efo pobl fel Jon Baker - y DJ wnaeth dynnu Hip Hop allan o'r ghetto a lluchio fo ar y llwyfan rhyngwladol, Fiona Dealey a Michele Clapton, costume designer Game of Thrones fel enghraifft, Stephen Jones y couture milliner.
"Roeddan ni gyd yna fel pobl ifanc a wnaeth o lansio gyrfa loads o bobl… ac wrth gwrs mae pawb yn nabod Boy George."
Fe fydd yr arddangosfa yn y Design Museum rhwng 20 Medi-29 Mawrth 2026.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol:
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Medi