Dod i 'nabod Asa Tribe, seren newydd Morgannwg

Asa TribeFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Daeth y newyddion ar 18 Medi fod Morgannwg wedi llwyddo i ennill dyrchafiad o Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd i brif haen y gystadleuaeth.

Un o'r sêr yn yr ymgyrch i Forgannwg eleni oedd y batiwr ifanc, Asa Tribe.

Ond pwy yw Asa Tribe?

Cennydd Davies gafodd gyfle i siarad â'r chwaraewr 21 mlwydd oed.

asa tribeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Asa Tribe ei gap cyntaf dros Jersey mewn gêm 20 pelawd yn erbyn Yr Almaen yn 2021

Pan gamodd Asa Tribe i fatio am y tro cyntaf y tymor hwn yn erbyn Sir Derby nôl ym mis Mai, fyddai'r cefnogwr brwd Morgannwg ddim wedi gosod unrhyw ddisgwyliadau uchel. Chwaraeodd y gŵr dros y sir am y tro cyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf y tymor diwethaf.

Roedd 'na arwyddion calonogol serch hynny ag yntau wedi taro dwy sgôr dros hanner cant ar ddiwedd y tymor cynt, ond doedd dim argoel o'r hyn fyddai'n dod eleni. Cafodd hyn ei adlewyrchu yn y ffaith na chafodd ei gynnwys ar gyfer y dair gêm gyntaf ym mhencampwriaeth y siroedd.

Mae'r hyn sydd wedi digwydd ers hynny wedi bod yn stori o ddatblygiad anhygoel, â'r gŵr o ynys Jersey nid yn unig wedi hoelio lle yn y tîm cyntaf, ond yn cael ei weld fel aelod allweddol am flynyddoedd i ddod.

"Ges i gyfle ddiwedd tymor diwethaf ond doedd hi ddim yn hawdd ar lefel gymaint yn uwch na beth oeddwn yn gyfarwydd ag e", meddai Tribe.

"O'n i mas ddwywaith heb sgorio yr un rhediad lawr yn Sussex, ac yn meddwl 'beth ar y ddaear rwy'n wneud fan hyn - dyna ni nawr ga'i ddim cyfle arall!'

"Ond a bod yn deg nath yr hyfforddwr gadw ffydd, a fy nghynnwys i ar gyfer y gêm yn erbyn Swydd Efrog, a llwyddais i gael dros hanner cant. Doedd hi ddim yn fatiad disglair llawn ergydion ond rwy'n credu 'nes i brofi i fi fy hun fod gen i'r ddawn, ond yn bwysicach y cymeriad a'r ysbryd hefyd i chwarae'r gêm ar y lefel yma."

Asa TribeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Asa Tribe a Zain-ul-Hassan yn batio yn erbyn Swydd Derby yng Nghaerdydd, 2 Mai, 2025

Mae ei lwybr i gyrraedd lefel dosbarth cyntaf o bosib wedi bod yn un anghonfensiynol, yn hanu o Jersey roedd e' eisoes wedi cynrychioli'r ynys mewn gemau rhyngwladol pan ddaeth i astudio yng Mhrifysgol Met Caerdydd. Yn ei amser yn y brifysgol fe ddaeth i amlygrwydd, a'i ddoniau yn denu sylw dewiswyr Morgannwg.

Fe dderbyniodd gyfle i gynrychioli'r ail dîm ac mae ei yrfa wedi datblygu ers hynny. Pa mor bwysig felly oedd ei brentisiaeth nol adre' a pa mor ddyfn yw ei wreiddiau ar draws y sianel?

"Roedd cynrychioli Jersey mor ifanc yn gyfle euraidd i mi flodeuo", meddai Tribe.

"O'n i ond yn 17 mlwydd oed pan 'nes i dorri mewn i'r tîm y tro cyntaf ac roedd yr hyn a wnes i ddysgu yn amhrisiadwy.

"Rwy'n falch o fy ngwreiddiau, mae'n golygu llawer i mi a dwi dal mor falch i gynrychioli'r tîm heddiw.

"Roedd 'na achlysur ym Mehefin pan 'nes i chwarae dros Forgannwg mewn gêm ugain pelawd ar nos Wener, hedfan i'r Iseldiroedd i gynrychioli Jersey ar y Sadwrn, a nol i Gaerdydd i wynebu Caint yng Ngerddi Sophia ar y Sul - felly rwy'n gobeithio fod hynny'n dangos mod i'n ymroddgar!"

Asa TribeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Asa yn cynrychioli Morgannwg yn erbyn Swydd Gaerwrangon, 22 Awst, 2025

Ers y gêm gyntaf honno yn erbyn Derby mae'r holl lafur caled wedi dwyn ffrwyth, a gyda'r tymor yn dirwyn i ben, mae Morgannwg wedi sicrhau dyrchafiad.

Mae Tribe wedi bod yn un o'r hoelion wyth wrth daro 100 dair gwaith dros y sir a dwywaith dros Jersey, a taro dros ddau gant o rediadau am y tro cyntaf erioed yn erbyn Northants yn ddiweddar.

Mae ei berfformiadau eleni'n amlwg wedi denu sylw, ac mae'r sir yn eiddgar iawn i'w gadw y tymor nesa. Dywed Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, Mark Wallace, ei fod yn gweithio'n ddiwyd i gadw Tribe yng Ngerddi Sophia ar gyfer y tymor hir.

"Mae e o dan gytundeb ar gyfer y tymor nesa, sy'n newyddion gwych, ac ry'n ni'n gweithio i wella telerau ei gytundeb, sy'n gwbl haeddiannol yn sgil ei berfformiadau.

"Rydyn ni i gyd yn y clwb yn awyddus i'w gadw am gyfnod hir, fel Ben (Kellaway) sy'n barod wedi ymrwymo am dair blynedd, ni'n gobeithio y bydd Asa hefyd yn chwarae rhan flaenllaw yn llwyddiant y sir am flynyddoedd i ddod."

Mi fydd y gŵr 21 mlwydd oed yn ehangu ei orwelion ymhellach yn y gaeaf ac yn chwarae yn Ne Affrica ar ôl arwyddo i dîm y Paarl Royals yn y gystadleuaeth 20 pelawd yno.

"Ond am y tro mae ei fryd ar orffen y tymor yn gryf a bod yn ran o dîm sydd wedi sicrhau dyrchafiad i adran gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd.

Pynciau cysylltiedig