Merch a gollodd ei choes yn 'benderfynol' o ddawnsio eto
Merch a gollodd ei choes yn 'benderfynol' o ddawnsio eto
- Cyhoeddwyd
Mae teulu merch o Rydaman a gollodd ei choes yn dweud iddi fod yn "benderfynol" o ddychwelyd i ddawnsio.
Wyth oed oedd Alys pan gafodd ddamwain yn yr ardd ym Mehefin 2022.
Er iddi orfod dysgu i gerdded gyda choes brosthetig, fe wnaeth hi oresgyn sawl rhwystr.
Mae wedi cyrraedd rownd derfynol Gwborau Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru, sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
- Cyhoeddwyd29 Awst
Dywedodd ei mam, Nia, fod y newyddion y byddai'n rhaid i'w merch gael llawdriniaeth i dynnu ei choes yn "dorcalonnus" iddi hi a'i gŵr, Dylan.
"Sul y Tadau o'dd hi a diwrnod gwbl gyffredin, tywydd braf," dywedodd Nia.
"Aeth Alys yn rhy agos i'r peiriant torri gwair, ac yn anffodus, fe gollodd hi ei choes.
"Yn bendant, bydd e'n ddiwrnod chi byth yn mynd i anghofio gan fod bywyd wedi newid yn gyfan gwbl i Alys ac i'r teulu. Diwrnod byddech chi byth yn moyn ail-fyw."

Mae Alys wrth ei bodd yn dawnsio ac yn chwarae pêl-rwyd
Dywedodd Alys ei bod wedi wynebu sawl her.
"O'n i'n gw'bod o'dd e'n mynd i newid bywyd fi," meddai.
"Ar y dechre', o'dd rhaid i fi ddechre' cerdded, hwnna o'dd challenge cynta fi a 'nes i hwnna.
"Wedyn o'n i 'di mynd i ddawnsio, just i watcho, a wel nawr, fi'n dawnsio. Fi'n falch iawn."

Roedd Alys yn cystadlu ar lwyfanau dawnsio o fewn blwyddyn ar ôl y ddamwain
Gyda grwpiau lleol ac wrth gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, mae Alys wedi perfformio ar sawl llwyfan gyda'i choes newydd.
Dyna pam ei bod wedi ei henwebu yng nghategori 'Arwr Ifanc' Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y BBC yng Nghymru.
"O'n i ddim really'n gw'bod beth i feddwl," dywedodd.
"Heb yr help fi 'di cael bydden i probably ddim yn gallu 'neud y pethe' fi'n 'neud nawr."
Dywedodd ei mam, Nia, fod yr enwebiad wedi dod fel "sioc" i'r teulu a'u bod yn falch iawn.
"Mae hi wedi bod mor benderfynol. Wyth mlwydd oed oedd hi pan ddigwydddd y ddamwain, ac mae'n 11 nawr, wedi troedio i'r ysgol uwchradd," ychwanegodd.
"Mae'n mynd i ffeindio ffordd i lwyddo mewn bywyd sdim ots beth yw'r sialens."