Y ffan Super Mario Bros sy' wedi cyfieithu caneuon y gêm i'r Gymraeg

Osian Llewelyn Edwards-Long
- Cyhoeddwyd
Mae Osian Llewelyn Edwards-Long yn ffan mawr o Super Mario Bros ond mae e'n gwneud dipyn mwy na mwynhau chwarae'r gêm gyfrifiadurol.
Mae Osian wedi bod yn cyfieithu caneuon y gêm i'r Gymraeg ac, wrth i Super Mario Bros ddathlu 40 mlynedd ers i'r gêm gael ei lansio, bu Osian yn siarad ar Dros Frecwast ynglŷn a'r ysbrydoliaeth tu ôl y gân ddiweddaraf iddo gyfieithu: "Ddoth y g ân yn wreiddiol o'r gêm 3d Mario ddiwethaf o'r enw Super Mario Odyssey.
"Maen nhw i gyd wastad yn gemau mawr, lot yn digwydd ynddyn nhw, lot o surprises, ond beth oedd wedi taflu lot o bobl oedd bod 'na gân lleisiol llawn yn rhan o'r gêm, yn rhan o naratif y gêm.
"Mae'n gân wych, mae'n un big band a swing, a dwi wastad wedi bod yn hoff o ganeuon fel yna.
"Dwi'n ffan mawr o Mario, ond dwi hefyd yn cyfieithu caneuon sioe gerdd a chaneuon ar gyfer pobl yn cystadlu'n yr Eisteddfod ac ar gyfer corau, felly pan glywes i hi, y peth cyntaf ddoth i 'mhen i oedd, mae hyn angen bod yn Gymraeg yn dydi? Felly es i amdani, a dyna fi wedi sortio fo."

Super Mario
Mae Osian, sy'n dod o Aberllefenni ger Machynlleth ond bellach yn byw ym Merthyr Tydfil, yn disgrifio ei hun fel 'ffan anferthol' o Mario ers y 1990au pan wnaeth e ennill Game Boy oedd yn cynnwys dau gêm - Tetris, a Mario & Yoshi.
Meddai: "Ers cwrdd a Mario yn y gêm yna dwi wedi syrthio mewn cariad efo'r cymeriad a'r gêm.
"Pan ddoth y (console gemau) Switch gyntaf allan, mi wnes i gyfieithu cân Mario adeg yno i'r Gymraeg."
Ac mae Osian wedi parhau i gyfieithu caneuon sy'n dod o gemau cyfrifiadurol i'r Gymraeg ac yna eu recordio nhw ar gyfer ei sianel YouTube.

Mae e'n esbonio beth sy' mor arloesol am Super Mario Bros: "Roedd pobl yn yr 1980au wedi arfer efo un sgrîn, un cymeriad bach sydd fel arfer yn gylch neu rhywbeth bach fel Pac-Man neu Space Invaders.
"Ond wrth gwrs, roedd Super Mario Bros yn wyth byd, efo pedwar llwyfan, os liciwch chi, pedwar lefel ym mhob byd.
"Mae lot o bobl ddim yn siŵr pam bod y super rhan o Super Mario Bros yn bodoli, ond mae o oherwydd gemau efo Mario ynddi nhw cyn hynny.
"Mi oedd na gêm yn yr arcades o'r enw Mario Bros, ond roedd hwnna'n gêm un sgrîn lle roeddech chi jyst yn symud o gwmpas mewn fath o sewers jyst yn taro gelynion ac roedd o'n un sgrîn a dyna ni, popeth yn iawn.
"Ond pan ddoth y syniad o greu platformer fel maen nhw'n galw nhw, sef gemau lle rydych chi'n rhedeg ac yn bod yn acrobatig iawn o un pen y stage i'r nesaf, oedd neb wedi sylweddoli faint o raddfa fuasai i'r peth yma."
Ac ar gyfer penblwydd y gêm yn 40, mae Osian yn cynllunio ei ddathliad personol ei hun: "Neidio o gwmpas fel rhywbeth gwyllt!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd10 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd7 Mehefin