Eisteddfod Genedlaethol: Cyhoeddi anrhydeddau'r Orsedd

  • Cyhoeddwyd
orsedd

Mae enwau'r rhai fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau eleni wedi eu cyhoeddi.

Yn eu plith mae cyn actor Pobol y Cwm, Gwyn Elfyn, 'Y Dyn Jazz', Wyn Lodwick, a chyn Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Wyn Jones.

Mae'r Orsedd yn anrhydeddu unigolion am eu "cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i'w cymunedau lleol" ar hyd a lled y wlad.

Ymhlith yr enwau eraill mae Elin Maher, a sefydlodd Menter Casnewydd, a Dafydd Meirion Roberts, prif weithredwr cwmni recordio Sain.

Yno hefyd mae Roger Boore, a sefydlodd Gwasg y Dref Wen, y cyn Aelod Cynulliad, Gwenda Thomas, a'r Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts.

Bydd y rhai sydd ar y rhestr yn cael eu hurddo ar faes yr Eisteddfod fore Gwener 5 Awst.

Gwyrdd, glas a gwyn

Mae'r rheiny sydd yn amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau, gweithgaredd bro/cenedl yn derbyn Y Wisg Las.

Mae'r Orsedd hefyd yn urddo aelodau newydd i'r Wisg Werdd am eu cyfraniad i'r celfyddydau.

Bydd y rheiny sydd wedi sefyll arholiad, neu sydd â gradd gymwys ym maes llenyddiaeth, cerddoriaeth, drama neu gelf, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd.

Mae enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd hefyd yn gymwys.

Dim ond enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol a urddir i'r Wisg Wen.

Mae rhestr lawn o'r rhai sy'n cael eu derbyn i'r orsedd ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol, dolen allanol.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau ar Ddolydd y Castell, Y Fenni, o 29 Gorffennaf - 6 Awst 2106.