Dyfodol ysgolion cynradd yn Aberaeron yn y fantol
- Cyhoeddwyd
Gallai hyd at bedair ysgol gynradd yn ardal Aberaeron gau wrth i Gyngor Ceredigion chwilio am arbedion a cheisio lleihau nifer y llefydd gwag.
Cafodd adolygiad ei gynnal o'r ddarpariaeth addysg yn y dalgylch, ble mae 10 ysgol gynradd.
Mae pedwar opsiwn wedi'u cynnig, gan gynnwys codi ysgol ardal newydd i ddisgyblion Ciliau Parc, Cilcennin, Dihewyd a Felinfach.
Bydd yr opsiynau i gyd yn cael eu trafod mewn cyfarfod o'r pwyllgor ar 9 Mai.
Mae Cyngor Ceredigion wrthi'n cynnal adolygiad o bob un o'r chwe dalgylch addysgol yn y sir.
Ymhlith yr awgrymiadau eraill ar gyfer dalgylch Aberaeron mae:
Parhau â'r drefn bresennol o 10 ysgol;
Cau Ysgol Cilcennin;
Sefydlu ysgol ardal newydd ar gampws y Ganolfan Addysg Broffesiynol yn Felinfach i ddisgyblion Ciliau Parc, Cilcennin, Dihewyd a Felinfach.
Mae'r adroddiad yn nodi manteision ac anfanteision pob opsiwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2012