Cabinet cyngor sir yn argymell cau Ysgol Dihewyd
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo cau ysgol gynradd wedi gostyngiad yn nifer y disgyblion.
Mae nifer y plant sy'n mynychu Ysgol Dihewyd, ger Felinfach, wedi gostwng islaw rhif trothwy'r cyngor o 20 disgybl.
Yn nhymor haf 2011 cyfarfu'r Cyfarwyddwr Addysg â Llywodraethwyr Dihewyd i'w rhybuddio bod y niferoedd yn debygol o fod dan y rhif trothwy ar gyfer yr ysgol gynradd ym mis Medi, ac os felly, byddai'r ysgol yn cael ei hadolygu.
Ar ddechrau tymor yr Hydref 2011 nifer y plant yn yr ysgol oedd 15 ond erbyn mis Chwefror 2011 dim ond 13 plentyn oedd yn cael eu dysgu yno.
Trafodaeth fanwl
Bwriad y cyngor yw cau'r ysgol erbyn Rhagfyr 31 2012 a throsglwyddo disgyblion i'r ysgolion agosaf yng Nghilcennin, Felinfach neu Llanwnnen.
Yn ôl adroddiad a gyflwynwyd i gabinet y cyngor sir yr wythnos yma fe adolygwyd yr ysgol ym mis Tachwedd y llynedd.
Dywed yr adroddiad fod y broses yn cynnwys cwrdd â Llywodraethwyr yr ysgol a chynnal trafodaeth fanwl ynglŷn â'r ddarpariaeth bosib i'r dyfodol.
Ychwanegodd yr adroddiad fod cyfarfodydd ymgynghorol wedi cael eu cynnal gyda'r staff, y rhieni, y llywodraethwyr ac aelodau'r gymuned ehangach i gasglu'u sylwadau a'u barn ynghylch y penderfyniad.
Cafodd yr ysgol ei chanmol y tro diwethaf iddi gael eu harolygu gan y corff arolygu addysg, Estyn yn 2008.
Ar y pryd dywedodd Martin Cray a arweiniodd y tîm o arolygwyr: "Rwyf wedi arolygu dros 200 o ysgolion mewn 19 sir ar draws Cymru ac fe fyddwn i'n gosod Ysgol Dihewyd ymysg y 10% uchaf."
Bydd gan rieni a'r gymuned leol tan Ebrill 10 2012 i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i'r cyngor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2011