Cychod hanesyddol i rasio ger Abertawe

  • Cyhoeddwyd
cychod naddu Olga ac AlphaFfynhonnell y llun, Ray Potter
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cychod Olga ac Alpha yn rasio ger arfordir y Mwmbwls

Fe fydd pum cwch hanesyddol yn mynd benben mewn ras ger arfordir Abertawe.

Fe fydd y cychod, gafodd eu hadeiladu rhwng 1904 ac 1909, yn cymryd rhan mewn regata oddi ar drwyn y Mwmbwls dros y penwythnos.

Un o'r cychod fydd yn cymryd rhan fydd Olga - cwch 56tr (18m), sy'n eiddo i Gyngor Abertawe.

Fe gafodd y cwch ei adnewyddu yn ddiweddar, yn dilyn grant gan Gronfa'r Loteri Genedlaethol.

Y cychod eraill sy'n cymryd rhan yw Alpha, Dolphin, Mascotte a Peggy.

Byddant yn gadael eu hangorfeydd ym Marina Abertawe am tua 08:00, gyda'r rasys yn dechrau am 09.30.

Dywedodd Frances Jenkins o gyngor Abertawe, fod gan y ddinas dreftadaeth forwrol gyfoethog, ac y bydd y rasys yn "sioe ffantastig" ac yn "gyfle gwych i gael cip olwg ar y gorffennol."

Mae'r digwyddiad yn rhan o raglen 'Mwynhau Abertawe' yr haf hwn.