"Mae'r gyfrinach yn fy lladd i!"
- Cyhoeddwyd
Fu bron i Owain Rhys Davies daro ei gar pan glywodd ei fod wedi cael rhan yn y gyfres deledu gwlt, swreal, 'Twin Peaks'.
Fe fydd y gyfres newydd yn dechrau nos Sul, Mai 21 a cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r actor am y profiad o weithio gydag un o gyfarwyddwyr ffilm a theledu mwya'r byd, ei fywyd yn LA ac Eisteddfod yr Urdd:
"O'n i'n y car pan ffoniodd fy asiant. O'n i wedi cael y clyweliad saith mis yn gynharach ac o'n i'n meddwl bo fi heb gael y rhan. O'dd rhaid i fi dynnu'r car draw a sgrechen, roedd pawb o fy nghwmpas yn edrych yn synn, roedd yn ddydd cofiadwy iawn..."
Dyna'r foment pan glywodd Owain Rhys Davies ei fod wedi cael rhan yn y gyfres deledu 'Twin Peaks', sy'n dychwelyd i'r sgrin nos Sul Mai 21, ar ôl 25 mlynedd ers diwedd y gyfres ddiwethaf. Y cyfarwyddwr David Lynch a'r cyd-awdur a chrëwr Mark Frost sy'n gyfrifol am ddod â'r gyfres yn ôl i'r sgrin fach. Mae'r plot mor gyfrinachol doedd yr actorion ddim yn cael gweld y sgript tan ddeuddydd cyn dechrau'r ffilmio.
Doedd Owain nac un o'r actorion eraill, ddim yn cael datgelu eu bod nhw'n rhan o'r cynhyrchiad hyd nes i restr y cast gael ei chyhoeddi. Mae'r plot, ac unrhyw beth arall yn ymwneud â'r gyfres, yn parhau'n gyfrinach tan nos Sul, ac Owain ei hun heb weld y penodau eto.
"Fe fydd y cast a'r criw yn gwylio'r bennod gyntaf gyda'n gilydd cyn i bawb gael eu gweld yn fyd eang. Dwi'n gyffrous iawn, ac fel pawb arall byddai'n gwylio'r gyfres ar ymyl fy sedd i weld sut fydd hi'n datod achos dwi ddim yn gwybod sut mae'r storiau'n dod at ei gilydd.
"Mae cymaint o gyfrinachedd o gwmpas y gyfres mae wedi achosi tipyn bach o frenzy yma yn LA. Mae cymaint o hysbysebion o gwmpas sy'n dweud dim byd am y gyfres, mae'n achosi pawb i drafod a chwestiynu popeth, gan gynnwys fi!"
Felly sut brofiad oedd hi i Owain weithio mewn cynhyrchiad o'r fath gyda chyfarwyddwr fel David Lynch, a sut argraff a greodd arno?
"Cwrddes i â David Lynch ar y set am y tro cyntaf. Ro'n i bach yn nerfus pan ddaeth e draw, ac am ryw reswm pan dwi'n nerfus dwi'n troi mewn i stand up comedian a dweud lot o jôcs! Daliodd e fy llaw a dweud "Shall we...?" Cawson ni chat bach am y cymeriad a wedyn wnaethon ni ddechre ffilmio."
Roedd yn rhaid i Owain ddisgwyl cryn amser cyn cael clywed ei ffawd:
"Saith mis yn ddiweddarach fe ges i'r alwad. Oedd hynny ar ddydd Llun, o'n i mewn am costume ar ddydd Mercher ac ar y set erbyn dydd Gwener. Clywes i bryd hynny fy mod wedi cael fy nghastio wythnos ar ôl y clyweliad gwreiddiol, ond achos o'n nhw moyn cadw popeth yn gyfrinachol doedden nhw ddim yn dweud dim byd tan yr wythnos o'n ni'n dechre ffilmio."
Yn ogystal â Twin Peaks, roedd Owain Rhys Davies, i'w weld - neu i'w glywed - yn chware rhan y Broga yn y ffilm Alice Through the Looking Glass, y flwyddyn ddiwethaf gydag actorion enwog fel Johnny Depp, Helena Bonham Carter, Michael Sheen, Rhys Ifans a Matt Lucas.
"Dros y flwyddyn diwethaf hefyd fi wedi ffilmio'r ffilm The Relationtrip sydd allan nawr ac yn ennill gwobrau yma yn America. Fe fues i nôl yn Llundain i ffilmio ffilm gomedi dywyll Prydeinig Self Help: A serial Killer's Guide to Life tan bythefnos yn ôl. Ac yn ffodus mae yna lot o brosiectau gen i ar y gweill eto i ddod."
"Lot o lwc"
Roedd angen "lot o lwc" arno i wneud enw iddo'i hun yn Hollywood meddai, wedi iddo symud yno dair blynedd yn ôl, ar ôl anafu ei ben-glin wrth berfformio yn y sioe gerdd Wizard of Oz ar lwyfan y Palladium yn Llundain. Penderfynodd symud i Los Angeles i chwilio am gyfleoedd newydd.
"O'n i wedi gweithio mewn teledu a ffilm ond o'n i heb gael profiad i'r un graddau a byddai actor fel arfer wedi cael, felly oedd angen lot o lwc arnai, ond mi wnaeth e weithio ma's.
Ystyried y Gymraeg
"O'n i'n y rhaglen Indians and Doctors a ffilm Nadolig S4C Teulu Tŷ Crwn. Mae lot o raglenni rhyngwladol ar gael dros y we yn America, ac oherwydd llwyddiant pethe fel Hinterland, mae'r asiantiau castio yma yn edrych ar bopeth chi wedi ei wneud, dydyn nhw ddim yn diystyrru rhaglenni Cymraeg er enghraifft, sy'n grêt i fi."
Wedi blynyddoedd o berfformio ar lwyfan y West End ac mewn rhaglenni teledu a ffilm; yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin dechreuodd ei ddiddordeb mewn actio, meddai, ac ar lwyfan yr Urdd yn cystadlu yn yr ymgom gyda'i ffrindiau Catherine Ayers (a oedd yn chware rhan Angharad Wynne yn Byw Celwydd) a Catrin Jones.
Nawr bod Owain yn creu enw iddo'i hun ar ochr arall i Fôr yr Iwerydd, mae'n gobeithio bod y ddwy rôl fwya' diweddar yn golygu y bydd yn cael cynnig gwaith ac y gall barhau i fyw yn America.
"Os oedd gwaith yn fy nenu i nôl adre fydden i ar yr awyren yn syth, ond dwi'n dwli byw yn America a dwi'n ffodus fod pethe wedi mynd yn dda iawn hyd yn hyn."
A'r gair olaf i ffans Twin Peaks...
"Mae David Lynch wedi rhoi lot o amser i'r sgript er mwyn plesio'r ffans ar draws y byd ac i sicrhau fod pawb yn gallu mynd yn ôl i mewn i'r byd od a rhyfedd yma y mae e wedi ei greu'n y gorffennol. D'yn ni dal ddim yn gallu siarad am unrhyw beth heblaw'r ffaith bo ni ynddo fe. Mae'r gyfrinach yn fy lladd i!"