Roadchef yn gwrthwynebu llwybr du yr M4

  • Cyhoeddwyd
Roadchef

Mae cwmni sy'n cynnig gwasanaethau ar draffyrdd yn herio cynlluniau i adeiladu ffordd newydd ar yr M4.

Yn ôl Roadchef byddai'r ffordd sy'n cael ei adnabod fel y llwybr du yn "drychinebus" ar gyfer y gwasanaethau ym Magwyr.

Maen nhw'n honni pe byddai'r ffordd yn cael ei hadeiladu y gallai'r safle, sydd yn cyflogi 190 o bobl, gau am y byddai'n rhaid i yrwyr ddargyfeirio pedair milltir i ddefnyddio'r cyfleusterau.

Ond mae'r CBI yn dweud bod y mwyafrif o fusnesau yn teimlo y dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen ac adeiladu'r ffordd. Dyma'r llwybr roedd y cyn lywodraeth Lafur yn ffafrio cyn yr etholiad.

Ac yn ôl Cyfarwyddwr Cyffredinol y mudiad, Carolyn Fairbain, fe ddylai hyn fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth nesaf.

Dyfodol ansicr?

Mae yna gwestiynau ynglŷn â dyfodol yr M4 am fod Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol ac UKIP yn gwrthwynebu adeiladu'r llwybr du.

Er bod y Ceidwadwyr yn cefnogi'r cynnig yma dydyn nhw ddim wedi taro bargen gyda'r blaid Lafur ynglŷn â'r mater yn ystod trafodaethau cyllideb yn y gorffennol.

Does gan y blaid Lafur ddim mwyafrif yn y Cynulliad wedi iddyn nhw ennill 29 allan o 60 o seddi yn yr etholiad.

Dywedodd Ms Fairbain: "Mae busnesau yn bryderus iawn bod angen i'r penderfyniad yma gael ei wneud. Maen nhw'n teimlo fod hyn yn rhan o'r cynllun a nawr mae angen cadarnhau hynny unwaith eto."

Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad ydy lleihau traffig yn ardal twnelau Bryngals

Ond mae Roadchef yn darogan y gallai'r cynlluniau presennol olygu gostyngiad o 80% mewn traffig ar gyfer rhai sydd wedi bod ar siwrneiau hir ym Magwyr ac y bydd yna fwlch o 50 milltir ar y llwybr du gan nad oes yna fwriad i adeiladu gwasanaethau newydd.

Roedd yna gynllun i fuddsoddi £1.7 miliwn yn y busnes ond mae hyn wedi ei roi i un ochr am y tro.

Mae busnesau eraill hefyd wedi datgan eu gwrthwynebiad. Mae rhai sydd yn cefnogi'r cynlluniau yn credu bod rhai cwmnïau yn gor-ddweud yr effaith negyddol allai'r llwybr gael arnyn nhw er mwyn cael mwy o iawndal os bydd y ffordd yn cael ei hadeiladu.

Gwadu hyn mae Roadchef gan ddweud ei bod eisiau osgoi unrhyw iawndal trwy ddod o hyd i ddatrysiad.

"Fel nifer o fusnesau lleol rydym ni eisiau gweld M4 newydd fydd o fudd i bobl De Cymru a phobl sydd yn byw yma," meddai Simon Turl, Prif Weithredwr Roadchef.

"Ond does dim opsiwn gyda ni ond gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru sydd yn golygu osgoi'r gwasanaethau mwyaf prysur yng Nghymru."