Refferendwm UE: David Jones i arwain yr ymgyrch gadael

  • Cyhoeddwyd
dave
Disgrifiad o’r llun,

Bu David Jones yn Ysgrifennydd Cymru am bron i ddwy flynedd

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru, David Jones, wedi ei benodi i arwain yr ymgyrch 'Vote Leave' yng Nghymru yn y refferendwm Ewropeaidd.

Yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol Gorllewin Clwyd, mae "chwant go iawn" yng Nghymru dros beidio parhau'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y bleidlais fawr yn cael ei chynnal ar 23 Mehefin.

Cyn-reolwr BBC Cymru, Geraint Talfarn Davies, yw cadeirydd 'Cymru'n Gryfach yn Ewrop', grŵp sy'n dymuno aros yn yr undeb.

"Does gen i ddim amheuaeth bod chwant go iawn yng Nghymru i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd," meddai Mr Jones.

"Mae arolygon barn diweddar wedi dangos bod Cymru hyd yn oed yn fwy awyddus am bleidlais dros adael na llawer o rannau eraill o'r wlad."

Ychwanegodd: "Fe all Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, edrych yn ymlaen i ddyfodol mwy llewyrchus, sy'n edrych tuag at allan, tu allan yr Undeb Ewropeaidd."