Galeri Caernarfon i ehangu gydag estyniad newydd
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan gelfyddydol Galeri yng Nghaernarfon wedi cael caniatad cynllunio i ymestyn yr adeilad.
Bydd yr estyniad newydd yn golygu codi estyniad tri llawr fydd yn gartref i ddwy sgrin sinema newydd, ynghŷd â derbynfa, swyddfeydd a chyfleusterau manwerthu.
Fe fydd y brif fynedfa bresennol yn cael ei hail-leoli i'r estyniad arfaethedig ynghyd a chreu lolfa newydd, swyddfa ar gyfer 18 gweithiwr, ystafell gyfarfod, storfeydd amrywiol a man arddangos nwyddau ar y llawr gwaelod. Bydd mynediad dros dro yn cael ei greu i'r ganolfan tra bo'r gwaith yn cael ei gwblhau.
Bydd 71 o seddi mewn un sinema, a 120 o seddi yn y sinema ar yr ail lawr.
Yn ôl y cais cynllunio gafodd ei ganiatau'n amodol gan Gyngor Gwynedd ddydd Llun, bydd yn rhaid lleihau rhywfaint ar y maes parcio presennol sy'n gwasanaethu'r Galeri ac fe fydd hyn yn golygu colli pedwar man parcio o'r 26 man sydd yno ar hyn o bryd.