Lluniau: Yr Wyddfa
- Cyhoeddwyd

Dechrau'r daith
Am y tro cyntaf erioed, mae 'na gynllun yn Eryri i ofyn i ymwelwyr gyfrannu tuag at gost cynnal a chadw'r llwybrau ar Yr Wyddfa.
Mae'r syniad yn cael ei grybwyll mewn dogfen gan Bartneriaeth Yr Wyddfa oherwydd pryderon cynyddol am y difrod sy'n cael ei achosi gan yr 500,000 sy'n troedio'r llwybrau yn flynyddol.
Ond cyn i chi orfod mynd i'ch pocedi, beth am daith rad ac am ddim i gopa mynydd mwyaf Cymru yng nghwmni Cymru Fyw?


Dyna'r ffordd, ar hyd Llwybr y Mwynwyr

Mae'n edrych fel llwybr digon hawdd

Golygfeydd godidog o gwmpas pob tro

Dechrau teimlo'n annifyr fod y daith mor hawdd... hyd yn hyn!

Llyn Teyrn yn llechu rhwng y mynyddoedd

Mae'r cwmwl dal yna!

Llyn Llydaw yn llonydd er gwaetha'r tywydd llwm

Yr hen waith copr ar lethrau'r mynydd

Mwynwyr y gwaith mwyn roddodd eu henwau i'r llwybr

Ac ymlaen ar hyd y llwybr i'r copa... mae hi dal yn gymylog!

Dechrau codi uwchben Llyn Llydaw bellach

Llwybr hir a chaled?

Dim i'w gymharu â'r hyn sydd o'n blaen!

Glaslyn, yn edrych yn...las!

Mae llwybr yn fwy cul ac yn fwy serth wrth godi uwchben Llyn Glaslyn

Hoe fach am bum munud... neu fwy?

Y cwmwl yn dechrau clirio o'r copa, ac mae torf yna'n barod!

Dim ond maint y bobl yn islaw sy'n awgrymu'r pellter rydyn ni wedi ei gerdded!

Y trên bach. Mae'n coesau ni'n cael eu temtio i gymryd y dewis hawdd yn ôl i'r gwaelod!

Y ffordd hon y daethon ni i fyny'r mynydd

...a'r ochr arall

Dyma ni!

Paned fach yn y caffi cyn y daith yn ôl i Lanberis

A dyna ni. Gobeithio i chi fwynhau'r daith!