Ystyried newidiadau mawr i bensiynau gweithwyr dur
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau eu bod yn paratoi i gyflwyno newidiadau sylfaenol i gronfa pensiwn gweithwyr yn y diwydiant dur.
Fe ddaw'r cyhoeddiad wrth i ymdrechion ddwysau i ddod o hyd i brynwr i safleoedd TATA ym Mhrydain.
Mewn datganiad ysgrifenedig, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Stephen Crabb AS: "Rwy'n cyhoeddi dogfen ymgynghori ar opsiynau ar gyfer Cynllun Pensiwn Dur Prydain.
"Mae'r diwydiant yn rhan bwysig o'r economi ac mae'r llywodraeth yn gweithio i helpu'r diwydiant sicrhau dyfodol tymor hir.
"Fel rhan o'r gwaith rydym yn ystyried dyfodol y gronfa bensiwn.
"Mae'r ymgynghori yn cynnwys ystod eang o opsiynau ar sut y gallai'r cynllun gael ei wahanu o'r cyflogwr presennol ac i leihau'r buddiannau o fewn y cynllun.
"Bydd yr ymgynghori yn parhau tan 23 Mehefin."
Mae TATA yn wynebu diffyg o £485m yn y gronfa bensiwn, ac mae'r cynlluniau i werthu eu busnesau dur ym Mhrydain yn ddibynnol ar gytundeb i leihau'r diffyg.
Deellir fodd bynnag y gallai newidiadau i'r gronfa olygu toriadau sylweddol i incymau pensiynwyr.
Mae Undeb Unite wedi dweud eu bod yn awyddus i weld manylion unrhyw gynllun cyn cefnogi unrhyw newidiadau.
Rhybuddiodd Llafur, fodd bynnag, y gallai newid y rheolau pensiwn fod yn gynsail peryglus.
Yn San Steffan dywedodd llefarydd y blaid ar fusnes, Maria Eagle, y gallai newid y drefn o gysylltu pensiynau galwedigaethol a'r gyfradd chwyddiant CPI, yn hytrach na RPI, gael effaith ar bensiynau mewn meysydd eraill.