Y Cymry Cymraeg gorau 'rioed
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n hyfryd nodi fod pum Cymro Cymraeg yng ngharfan Cymru o 23 ar gyfer rowndiau terfynol Euro 2016. Tybed fu cynifer o Gymry Cymraeg yng ngharfan bêl-droed Cymru erioed o'r blaen?
Ar ôl i Chris Coleman ddewis Owain Fôn Williams, Ben Davies, Joe Allen, Aaron Ramsey a David Vaughan, dwi wedi mentro dewis y tîm gorau o siaradwyr Cymraeg dwi wedi eu gweld yn chwarae i Gymru yn fy marn i.
Maen nhw i gyd wedi ennill o leiaf un cap, ac er nad oedd nifer fawr o chwaraewyr ar gael i mi roedd gen i broblem wrth fynd ati i ffurfio fy nhîm - roedd gormod o ymosodwyr a dim digon o amddiffynwyr!
O ran yr ymosodwyr, dwi'n gobeithio y ca'i faddeuant gan Iwan Roberts a Malcolm Allen am eu gadael nhw allan o'r 11 a finnau wedi cydweithio gyda nhw mor aml dros y blynyddoedd.
O ran yr amddiffynwyr dwi wedi symud rhywun arall rydw i wedi sylwebu efo fo droeon - Owain Tudur-Jones - o'i safle arferol yng nghanol y cae i ganol yr amddiffyn. Dyna'n union roedd rheolwr Abertawe Roberto Martinez eisiau i Owain ei wneud a chaiff o ychwanegu'i daldra at amddiffyn fy nhîm i.
Dwi hefyd wedi symud y Cofi Tom Walley, oedd yn chwaraewr canol cae neu asgellwr, i safle'r cefnwr de - am y rheswm syml nad oes gen i neb arall i chwarae yn y safle hwnnw!


1. Golwr, Dai Davies (52 o gapiau, y cap cyntaf yn 1975 a'r cap olaf yn 1982). Y golwr cyntaf i ennill 50 o gapiau i Gymru


2. Cefnwr de, Tom Walley (1 cap, 1971). Cafodd ei unig gap pan oedd o gyda Watford ar ôl ymuno â nhw o Arsenal


5. Amddiffynnwr canol, Owain Tudur-Jones (7 cap, 2008-2013). Cyfanswm da o gapiau ac yntau wedi cael cymaint o anafiadau pen-glin


6. Amddiffynnwr canol, Mark Aizlewood (39 cap, 1986-1994). Yn y tîm gurodd bencampwyr y byd Yr Almaen o 1-0 yng Nghaerdydd yn 1991. 'Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn' yn 1996


3. Cefnwr chwith, Ben Davies (19 cap, 2012- )


4. Chwaraewr canol cae amddiffynnol, Joe Allen (25 cap, 2009- )


7. Chwaraewr canol cae amddiffynnol, David Vaughan (42 cap, 1 gôl, 2003- )


11. Chwaraewr canol cae ymosodol, Emyr Huws (6 cap, 1 gôl, 2014- )


8. Chwaraewr canol cae ymosodol, Aaron Ramsey (37 cap, 10 gôl 2008- )


9. Ymosodwr, John Hartson (51 cap, 14 gôl, 1995-2005). Sgoriwr nifer o goliau cofiadwy i'r tîm cenedlaethol, ond tybed faint sy'n cofio mai o'i bas wych o y sgoriodd Craig Bellamy yr ail gôl yn y fuddugoliaeth o 2-1 dros Yr Eidal yn 2002?


10. Ymosodwr, Wyn Davies (34 cap, 6 gôl, 1963-1973). Sgoriwr y gôl sicrhaodd gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn 1968

Eilyddion
12. Golwr, Owain Fôn Williams (1 cap, 2015- )
13. Amddiffynnwr, Ray Mielczarek (1 cap, 1971). Enillodd ei unig gap yn erbyn Y Ffindir. Fel Tom Walley a Wyn Davies, brodor o Gaernarfon. Roedd ei daid o Wlad Pwyl
14. Ymosodwr, Iwan Roberts (15 o gapiau, 1989-2001). Buasai wedi cael llawer mwy o gapiau oni bai am y ffaith ei fod yn cystadlu yn erbyn Ian Rush am le yn y llinell flaen
15. Ymosodwr, Malcolm Allen (14 o gapiau, 3 gôl, 1986-1993). Sgoriwr y gôl roddodd dîm Terry Yorath ar y blaen cyn iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn Cologne yn 1989. Fel Iwan Roberts roedd yn anffodus i fod yn chwarae yn yr un cyfnod â Rush - a Mark Hughes a Dean Saunders hefyd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2015