Euro 2016: Joe Ledley yng ngharfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
LedleyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Joe Ledley wedi ei gynnwys yn y garfan o 23 chwaraewr fydd yn cynrychioli Cymru yn Euro 2016.

Fe wnaeth Ledley dorri asgwrn yn ei goes wrth chwarae i Crystal Palace ddechrau mis Mai ac roedd amheuon mawr am ei ffitrwydd.

Emyr Huws, Paul Dummett, Adam Matthews a Wes Burns yw'r chwaraewyr sydd wedi cael eu rhyddhau ar ôl bod yn rhan o'r garfan ymarfer gwreiddiol.

Roedd Tom Lawrence, Tom Bradshaw ac Adam Henley wedi cael eu rhyddhau o'r garfan yn barod ar ôl cael eu hanafu.

Disgrifiad,

Owain Llyr sy'n rhoi sylw i'r prif bynciau trafod ar ôl y cyhoeddiad

Y garfan llawn yw:

Hennessey, Ward, Fôn Williams; Davies, Chester, Collins, Gunter, Richards, Taylor, A Williams; Allen, Edwards, King, Ledley, Ramsey, Vaughan, J Williams, G Williams; Bale, Church, Cotterill, Robson-Kanu, Vokes.

Bydd Cymru yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden ar 5 Mehefin cyn dechrau'r gystadleuaeth yn erbyn Slofacia ar 11 Mehefin yn Bordeaux.

Lloegr fydd y gwrthwynebwyr pum niwrnod yn ddiweddarach, cyn i ddynion Coleman wynebu Rwsia yn y gêm olaf yng ngrŵp B.