Gofyn i gynghorau bach Gwynedd helpu i ariannu tai bach
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno i ofyn i gynghorau tref a chymuned i'w cynorthwyo i ariannu toiledau cyhoeddus y sir.
Gobaith arweinwyr y cyngor yw y bydd y cynllun yn golygu na fydd rhaid cau 50 o 73 o doiledau'r awdurdod.
Bydd y cyngor sir yn gofyn i gynghorau bach gyfrannu at y gwaith o gynnal a chadw'r gwasanaethau - £4,000 y flwyddyn i'r rhai sydd ar agor drwy'r flwyddyn, a £2,000 am doiledau sydd ar agor yn ystod cyfnodau twristaidd.
Yn gynharach eleni, cytunodd y cyngor i gynllun i gau rhai tai bach, gan arbed £244,000.
Os na fydd yna gytundeb gyda chynghorau tref a chymuned, mae disgwyl i wasanaethau gau dros y flwyddyn nesa.
Yn ystod y cyfarfod ddydd Mawrth, dywedodd yr aelod cabinet, John Wynn Jones: "Rydym yn argymhell cynllun amgen sy'n cynnwys mynd at gynghorau tref a chymuned i awgrymu - os ydyn nhw wir yn gwerthfawrogi'r toiledau yma - eu bod yn cyfrannu at y gwaith o'u cadw ar agor."
Dywedodd y cabinet eu bod hefyd yn agored i'r syniad o gynghorau lleol yn cymryd perchnogaeth a rheolaeth o doiledau o fewn eu cymuned yn y tymor hirach.
Datganiad
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd:
"Mae'r ffaith fod y cyngor yn wynebu toriadau sylweddol i'r cyllid y mae'n ei dderbyn ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus yn golygu nad oes dewis arall ond gwneud penderfyniadau anodd er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau sydd fwyaf pwysig i drigolion y sir.
"Yn Hydref 2015, fe wnaeth Cyngor Gwynedd gwblhau ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr pan leisiodd dros 2,000 o drigolion a sefydliadau eu barn ar ystod o doriadau posib i wasanaethau fyddai eu hangen er mwyn pontio'r diffyg arianol anferth sy'n wynebu'r awdurdod.
"Roedd hyn yn cynnwys rhoi'r gorau i ofalu am 50 allan o gyfanswm o 73 o doiledau cyhoeddus yn y dyfodol.
"Mae'r cyngor wedi egluro mai'r dewis gorau fyddai osgoi cau tai bach pan yn bosib. O achos hyn, mae gwaith manwl wedi ei gwblhau ers mis Mawrth i geisio darganfod a oes unrhyw ddewisiadau amgen i ariannu a chadw toiledau cyhoeddus ar agor fyddai fel arall yn gorfod cau erbyn Ebrill 2017.
"Yn ystod y cyfarfod heddiw fe wnaeth cabinet y cyngor dderbyn yr argymhelliad o geisio mynd i bartneriaeth gyda chyrff cyhoeddus fel cynghorau cymuned a thref a'u gwahodd i gyfrannu tuag at y gost o gynnal cyfleusterau gyda'r posibilrwydd o drosglwyddo'r cyfrifoldeb amdanyn nhw iddyn nhw yn y dyfodol.
"Bydd swyddogion nawr yn bwrw ymlaen gyda thrafodaethau manwl gyda chynghorau cymuned. Ni fydd penderfyniad yn cael ei wneud ar ddyfodol unrhyw doiled unigol tan y bydd trafodaethau gyda phartneriaid posib wedi eu cwblhau."